Yr effaith mae covid wedi cael ar yr Eglwys leol

Sgwrs gyda dau aelod o gymuned yr Eglwys leol

gan Cerys Burton

Mae’r pandemig wedi rhoi effaith negyddol iawn ar fywydau llawer ohonom dros y 9 mis diwethaf. Mae digwyddiadau fel sioeau lleol a phriodasau wedi eu gohirio neu canslo, mae bwytau a siopau lleol wedi gorfod cau dros dro. I rai, canlyniad hyn oedd gorfod cau yn derfynol; ond sefydliad sydd heb orfod cau erioed o’r blaen yw’r eglwys. Mae sefydliadau crefyddol heb orfod cau eu drysau erioed, er fod gwrthdaro rhwng gwahanol grefyddau, does erioed wedi bod achos lle mae sefydliadau crefyddol o bob crefydd wedi gorfod cau.

Parchedig Robin Morris

Gyda pwy well i siarad nag y Parch Robin Morris, dyn sydd wedi byw yn yr ardal am dros bedwar deg o flynyddoedd, ficer ardal Bro Ystwyth a Mynach.

Pam wnaethoch chi ddewis y llwybyr hyn?

Trwy rhan fwyaf o fy mywyd rwyf wedi gweithio efo’r Iesu, o fod yn genad i ficer. Rwyf wedi mynychu’r eglwys erioed, ond peiriannydd oeddwn eisiau wneud fel swydd. Es i a fy ngwraig allan i Zambia ble roeddwn yn gweithio fel peiriannydd yn y gwaith mwyn. Wrth fynychu’r eglwys pob dydd Sul dechreuais ddod i adnabod cenhadon o’r wlad gyferbyn. Wrth sgwrsio efo’r bobl yma, a gweddio llawer ar y mater yma, darganfyddais dyma oedd fy ngwir alwad. Felly wnes i adael fy swydd ac fe aeth fy ngwraig a minnau i wlad Belg am hyfforddiant. Cafom ein lleoli yng ngwlad y Congo, a dyma lle wnes i ddysgu gwyddoniaeth ac astudiaethau’r Beibl. Roedd fy ngwraig, Cath, yn helpu rhedeg fferm yr ysgol. Ar ôl gwneud hyn am nifer o flynyddoedd roedd hi’n amser dod yn ôl adref; symudon ni i Gwmystwyth a dyma ble i ni fod ers 45 o flynyddoedd bellach. Cychwynais Clwb Antur Cristnogol lleol, wnaeth Cath a minnau rhedeg y clwb am 26 o flynyddoedd. Gofynnwyd i mi wneud hyn am fy mod yn Gynorthwydd Bugeiliol y plwyf lleol, gan fod prinder o Weinidogion lleol. Ar ôl tair mlynedd cefais fy ordeinio yn Ficer, a mae bellach wedi bod yn chwe mlynedd ers i mi ddod yn Ficer.

A ydych wedi gwynebu her fel Covid wrth fod yn Genad neu Ficer?

Dwi erioed wedi dod ar draws unrhywbeth sy’n debyg i Covid, mae’n ddieithr i bawb. Yn amlwg roedd fy amser yn y Congo yn anodd gan roedd y wlad o dan gynnwrf gwleidyddol. Nid yw Affrica yn lle da i fod pam mae helynt! Dwi’n cofio gorfod gyrru am daith hir iawn un diwrnod, ac ar y pryd roedd rhwystrau ffyrdd yn cael eu rheoli gan y fyddin. Collais gyfrif ar faint aethon ni trwyddo y diwrnod hynny; rhan fwyaf o’r amser roedd y milwyr eisiau gyniau neu bwledi. Wrth gwrs doedd efo ni sut beth, roeddwn ni yna mewn heddwch. Roedd y milwyr wedi cael tipyn i yfed a gofynnon nhw os oedd gyniau neu bwledi efom, fel pob tro arall wedon ni na. Dyma un o’r cenhadon eraill yn camu allan o’r car a dweud oes. Mae’n agor drws ôl y car, (erbyn hyn mae gyniau yn pwyntio at bennau pob un ohonom), ac yn rhoi beibl i’r milwr a dweud, “We are the Lords army and here is our ammunition”. Parhaodd hi i roi’r beiblau allan i’r milwyr, ac aethom adref heb helynt. Roedd nifer fawr o amseroedd yn Affrica ble dylem fod wedi marw, ond efo Duw fe wnaethom oroesi.

Beth oedd eich ymateb i effaith Covid ar yr Eglwys, beth ydych yn wneud i weithio o’i amgylch, a beth yw eich cynlluniau i’r dyfodol?

Pan gyhoeddwyd bod yr eglwysi yn gorfod cau, meddyliais bod hyn yn benderfyniad sydyn ac allan o unman, roeddwn mewn cyflwr o sioc. Nid oeddwn yn gwybod beth oedd yn dod nesaf, na chwaith beth oeddwn ni’n mynd i neud nesaf. Dros y pandemig rydym wedi dysgu am ffyrdd newydd ac arloesol i gysylltu a dysgu cymuned yr eglwys. O gyfarfodydd Zoom i glipiau Youtube mae’r ardal lleol wedi neud yn dda i gadw cysylltiad efo’i cymuned. Bellach mae rhaglenni teledu a radio wedi cynnal gwasanaethau. Mae niferoedd lleol a chenadlaethol wedi tyfu dros y misoedd diwethaf, yn ddiweddar cafodd plwyf Ty Ddewi 2,000 o bobl yn gwylio un o’i gwasanaethau. Ni fysai y nifer hyn yn mynd i wasanaeth arferol o bell ffordd. Felly mae’r ffyrdd gwahanol hyn o ddarlledu gwasanaethau yn denu pobl newydd i fewn – pobl na fyddai’n mynd i’r eglwys yn arferol, ac mae hyn yn beth ardderchog. Yn bersonol rwyf wedi creu ‘Weekly thought’, a rwy’n anfon allan ar e-bost; i rai aelodau o’r eglwys rwy’n argraffu copi ac yn anfon nhw drwy’r post. Hyd yn oed heb y cyfryngau mae yna ffyrdd o gadw cysylltiad a’n gilydd a gyda’r Arglwydd. Mae’r pandemig wedi achosi ni i feddwl ‘outside the box’, o fewn argyfwng dwi’n gweld cyfleoedd a phosibilrwydd. Mae angen gweinyddu ar bobl mewn ffyrdd ymarferol, ni chredaf dylen ni fynd yn ôl at yr hen ffordd o weinyddu, mae angen ymgorffori y technegau newydd hyn. Does dim ateb pendant gyda fi ar sut bydd yr eglwys yn edrych yn y dyfodol, nid ydw i eisiau colli dim o’r cyfleoedd newydd rydym wedi greu. Credaf bysai newid wedi dod o fewn yr eglwys ta waeth. Nid ydym eisiau colli’r momentwm sydd efo ni, dwi’n gyffrous am y dyfodol a’r rhan byddaf yn chwarae ynddi.

Delyth Morris Jones – Warden Eglwys Ysbyty Cynfyn

Wrth sgwrsio efo aelod ffyddlon o Eglwys Ysbyty Cynfyn, Ponterwyd – Delyth Morris Jones – dysgais bod yr eglwys llawer mwy na man addoli.

Beth mae’r eglwys yn golygu i chi?

Dyma ble dwi’n teimlo fel cychwyn bob wythnos, ac hebddo does dim cychwyn iawn i’r wythnos. Mae addoli yn addoldy yn bwysig i mi, mae cyd-addoli gyda pobl y gymuned yn dod a cyfeillgarwch a’r cyfle i helpu ein gilydd.

Pa effaith sydd wedi bod ar y gymuned oherwydd bod yr eglwys ar gau?

Yn ogystal a lle i addoli, mae’r eglwys yn fan cyfarfod. Mae llawer o bobl yn y gymuned yn byw ar ben eu hun, ac roedd dod i’r eglwys ar y Sul i addoli a chyfarfod a’u ffrindiau yn bwysig iddynt. Nid yw’r eglwys wedi medru cymryd y rhan arferol ym mywydau’r gymdeithas, yn enwedig adeg angladd, bedydd, priodas, ac achlysuron hapus eraill.

Ydych chi’n gweld yr eglwys yn ail agor, ac a fydd yr un peth ag yr oedd?

Oherwydd oedran aelodaeth ein eglwys a rhai eraill yn gwarchod eu hunain, nid wyf yn gweld yr eglwys yn agor yn fuan. Tan ddaw y brechlyn cywir i atal y feirws bydd gofyn dilyn canllawiau cymdeithasol. Gan obeithio daw y dydd pan fyddwn yn medru addoli yn yr un modd ag y bûm. Ta waeth, mae y cyfryngau wedi chwarae rhan bwysig i gadw pawb mewn cysylltiad a’u gilydd, a thrwy hynny yr ydym wedi mwynhau cyfarfodydd Zoom ar y Sul. Mae gwasanaethau sydd wedi eu darlledu ar y radio ac ar y teledu wedi bod o fudd mawr i lawer hefyd. Gobeithiaf bydd y cyfryngau yma yn parhau gan eu bod yn medru cyrraedd yr unig a’r oedrannus yn ein cymuned.

Mae’r Nadolig yn cael ei gyfri yn uchafbwynt y flwyddyn i nifer o Gristnogion, wrth iddynt ddathlu genedigaeth Crist. Am y ddeng mlynedd diwethaf mae Eglwys Ysbyty Cynfyn wedi cynnal Gŵyl Coed Nadolig. Roeddwn i’n chwilfrydig i ddarganfod barn Delyth am yr ŵyl a Nadolig yn gyffredinol yn y pandemig.

Beth ydi chi’n meddwl bydd yn digwydd i’r Ŵyl Coed Nadolig, a Nadolig yn gyffredinol?

Fel arfer byddem ni yn dathlu gŵyl arbennig am wythnos gyfan ar ddechrau mis Rhagfyr. Byddem yn dewis thema arbennig bob blwyddyn pan fyddai ysgolion, eglwysi, capeli a mudiadau’r fro yn cymryd rhan. Byddem yn croesawu ymwelwyr o ardal eang iawn atom. Ni fyddwn yn medru gwneud hyn eleni gan ei fod mor bwysig i bawb gymysgu ac eraill mor lleied a phosib i gadw’n ddiogel. Mi fydd eglwysi penodedig a gwasanaethau Nadolig, pan fydd gofyn iddynt gadw at holl gyfyngiadau y llywodraeth a’r Eglwys yng Nghymru. I’r rhai fydd yn methu mynd i’r gwasanaethau hynny, yr un fydd neges a chroeso i’r baban yn ein cartrefi.

Mae Covid wedi canslo nifer o bethau i bawb eleni, y dyfyniad sydd ar y cyfryngau cymdeithasol yr wythnos hon ydi, “Christmas is cancelled”. Wrth drafod hyn efo Delyth cefais ymateb difyr iawn ganddi.

“Mae’n amlwg fod y rhan fwyaf o’r wlad ddim yn gwybod gwir rheswm am ddathlu’r Nadolig.”