“Mae wedi bod yn amser tawel iawn i’r chwaraewyr, hyfforddwyr, cefnogwyr a’r noddwyr.”

Effaith Covid-19 ar Glwb Rygbi Aberystwyth

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Yn ôl Brian Morgan, Llywydd Clwb Rygbi Aberystwyth: “Mae wedi bod yn amser tawel iawn i’r chwaraewyr, hyfforddwyr, cefnogwyr a’r noddwyr” wrth i’r clwb addasu er mwyn goresgyn y cyfnod o galedi sydd yn wynebu’r gêm yng Nghymru oherwydd y pandemig.

Mewn cyfweliad â Golwg360 mae Brian Morgan yn cydnabod bod y clwb mewn lle da ar hyn o bryd, ond yn rhybuddio gallai pethau newid dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf oherwydd y pandemig.

“Chwaraeom ni ein gêm ddiwethaf dechrau mis Mawrth”, meddai Brian Morgan.

“Pan ma’ nhw yma mae arian yn dod i mewn i’r clwb, pan dyden nhw ddim, does dim arian yn dod i mewn, ond mae dal taliadau i wneud gan y clwb.

“Ni’n weddol hyderus a chyfforddus ar hyn o bryd, ond wrth gwrs gall llawer newid dros yr wythnosau nesaf a newid y llun.”

Cadw noddwyr ac addasu

Ar ddechrau’r pandemig derbyniodd pob clwb rygbi yng Nghymru £1000 gan Undeb Rygbi Cymru.

Mae clybiau rygbi fel Clwb Rygbi Aberystwyth sydd wedi cofrestru fel busnesau hefyd yn gymwys ar gyfer grant o £10,000 gan Lywodraeth Cymru.

Er bod Trysorydd Clwb Rygbi Aberystwyth, Wyn Morgan yn cydnabod fod hyn wedi bod o gymorth mawr i’r clwb, mae’n pryderu beth fydd yn digwydd os na fydd modd i fusnesau lleol barhau i noddi’r clwb dros y flwyddyn nesaf.

“Rydym ni’n ddibynnol iawn ar ein noddwyr, ac yn ddiolchgar iawn iddyn nhw”, meddai Wyn Morgan.

“Mae rhaid i ni nawr ffeindio ffordd o fynd at y noddwyr.

“Mae lot o fusnesau wedi gorfod addasu, datblygu a newid eu patrwm oherwydd yr argyfwng.

“Ar ddiwedd y dydd ni yn fusnes hefyd, mae rhaid i ni edrych oes yna ffynonellau eraill a rhywbeth gallem ni wneud yn wahanol.

“Mae rhaid i ni fod yn bositif a symud ymlaen o hyn, a byw mewn gobaith.”