Mae Sara Beechey, perchennog Yr Hen Lew Du wedi dweud nad oes pwynt agor y dafarn heb allu gwerthu alcohol.
Cyhoeddodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford bydd y cyfyngiadau newydd yn dod i rym o 6yh ddydd Gwener, Rhagfyr 4, i leihau ymlediad y coronafeirws unwaith eto cyn cyfnod y Nadolig.
Dywedodd Sara Beechey bod y costau rhedeg yn gorlethu’r manteision o agor heb gwrw.
“Agor a chau” drwy’r adeg yn rhwystredig
“Does dim pwynt i ni agor – rhyw hanner agor fydde fe,” meddai’r perchennog Sara Beechey.
“I fod yn onest, y peth sydd fwyaf siomedig, yw’r busnes agor a chau ‘ma drwy’r adeg.
“Dwi’n ffeindio hynny’n anodd iawn… wrth gwrs y’ch chi’n archebu stoc… bwyd a diod… i agor am gyfnod ac wedyn chi’n gorfod cau lawr a chi ddim yn guaranteed o allu gwerthu neu gael gwared ar bopeth – mae hynny’n anodd ac yn gostus ofnadwy.
“Hefyd, mae’n rhaid meddwl am y staff,” meddai, “chi’n gofyn iddyn nhw fod ar gael i chi am gyfnod penodol ac wedyn chi’n gorfod gadael nhw i lawr.”
Dywedodd hefyd nad yw ychydig ddyddiau o rybudd yn ddigon o amser i allu blaengynllunio ac atal colledion ariannol pellach.
Bydd y cyfyngiadau newydd yn cael eu hadolygu ar Ragfyr 17, a phob tair wythnos wedi hynny.