Dim caniatâd cynllunio i far newydd ar Stryd Fawr Aber

Yn ôl swyddogion cynllunio nid prif stryd siopa Aberystwyth yw’r lle ar gyfer bar gyda’r nos. 

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

“Nid prif stryd siopa Aberystwyth yw’r lle ar gyfer bar gyda’r nos” medd y Cyngor Tref.

Mae pwyllgor cynllunio Cyngor Sir Ceredigion wedi gwrthod caniatâd i gwmni Loungers i droi siopau Burton a Dorothy Perkins ar y Stryd Fawr yn far a chaffi heddiw (8 Ionawr), yn dilyn gwrthwynebiad gan y Cyngor Tref.

Bwriad gwreiddiol y cwmni oedd sefydlu bar yn un o unedau newydd yn yr Hen Ysgol Gymraeg, ond yn lle hynny cyflwynwyd cynlluniau ganddynt i agor y bar ar dop y Stryd Fawr.

Cafodd y cynlluniau eu gwrthod er na fyddai’r newid wedi amharu ar ymgais y Cyngor i geisio cadw o leiaf 75% o’r unedau ar y stryd ar gyfer defnydd siopa yn unig.

Wedi’i sefydlu yn 2002, mae gan Loungers bellach 146 o sefydliadau gwahanol yng Nghymru a Lloegr, ac yn rhedeg dan enw dau frand – Lounge a Cozy Club.

Dywed adroddiad y Cyngor Tref “Nid yw’r lleoliad hwn yn cael ei ystyried yn briodol gan y bydd yn amharu ar fasnachu ar y brif stryd adwerthu yn Aberystwyth.” Mae’n mynd ymlaen i ddweud nad yw’r addasiadau yr oedd Loungers am eu gwneud i du blaen yr adeilad yn addas ar gyfer ardal gadwraeth fel hon, a bod “safleoedd mwy addas ar gael” yn y dref.