“Nid prif stryd siopa Aberystwyth yw’r lle ar gyfer bar gyda’r nos” medd y Cyngor Tref.
Mae pwyllgor cynllunio Cyngor Sir Ceredigion wedi gwrthod caniatâd i gwmni Loungers i droi siopau Burton a Dorothy Perkins ar y Stryd Fawr yn far a chaffi heddiw (8 Ionawr), yn dilyn gwrthwynebiad gan y Cyngor Tref.
Bwriad gwreiddiol y cwmni oedd sefydlu bar yn un o unedau newydd yn yr Hen Ysgol Gymraeg, ond yn lle hynny cyflwynwyd cynlluniau ganddynt i agor y bar ar dop y Stryd Fawr.
Cafodd y cynlluniau eu gwrthod er na fyddai’r newid wedi amharu ar ymgais y Cyngor i geisio cadw o leiaf 75% o’r unedau ar y stryd ar gyfer defnydd siopa yn unig.
Wedi’i sefydlu yn 2002, mae gan Loungers bellach 146 o sefydliadau gwahanol yng Nghymru a Lloegr, ac yn rhedeg dan enw dau frand – Lounge a Cozy Club.
Dywed adroddiad y Cyngor Tref “Nid yw’r lleoliad hwn yn cael ei ystyried yn briodol gan y bydd yn amharu ar fasnachu ar y brif stryd adwerthu yn Aberystwyth.” Mae’n mynd ymlaen i ddweud nad yw’r addasiadau yr oedd Loungers am eu gwneud i du blaen yr adeilad yn addas ar gyfer ardal gadwraeth fel hon, a bod “safleoedd mwy addas ar gael” yn y dref.