Hel a didol diadell

Megan Lewis
gan Megan Lewis
Cwm Elan

Cwm Elan

Mae gyrru dros y mynydd o gyfeiriad Cwmystwyth i Raeadr yn brofiad cwbl hudolus i mi, ac yn daith y byddaf yn ei gwneud bob haf, yn ddi-ffael, ar fy ffordd i’r Sioe Fawr yn Llanelwedd.

Ac wrth wneud hynny, gallaf enwi sawl tyddyn a thirnod unigryw ar hyd y ffordd – Trympeg y Mynydd, Ffynnon Ginog, Rhiw Sgadan, Gors Lwyd a’r tŷ diwethaf cyn ffin Ceredigion, sef Abergwngi. Fy nhad, Tom Lewis Pengraig, sydd wedi dysgu’r rhain i mi wrth gwrs. Un sydd wedi treulio’i oes yn bugeila’r mynyddoedd hyn, a hynny fel arfer ar gefen poni!

Rwy’n edrych ymlaen yn fawr felly at raglen newydd fydd yn cael ei darlledu nos Sul yma yn rhoi blas i wylwyr Cymru o’r arfer o hel/grynhoi defaid (neu ‘hela defed’ i ni).

Deallaf y bydd y rhaglen yn canolbwyntio ar yr elfen o gyfnewid bugeiliaid, traddodiad sy’n prysur ddod i ben ar hyd a lled Cymru. Ond mae dal yn fyw ac yn gryf yma ar fynyddoedd yr Elenydd, lle bydd un cymydog yn helpu un arall i hel y defaid oddi ar y mynydd i’w cneifio’r neu i nodi’r ŵyn, gyda’r ail gymydog yn dychwelyd i helpu’r llall ar ei fferm ei hun ar ddiwrnod arall, a hynny yn ‘gyfnewid’ am ei waith.

Paradwys

Erwyd Howells
Erwyd Howells

Un fydd yn ymddangos ar y gyfres nos Sul yw’r hanesydd a’r awdur lleol, Erwyd Howells o Gapel Madog. Bydd y rhaglen yn dilyn y criw o fugeiliaid wrth iddynt hela defaid ar fynyddoedd Cwm Elan. Mae’n dasg a hanner gan nad oes yna ffensys i gadw defaid y naill ffermwr na’r llall ar wahân, felly bydd angen profiad, deallusrwydd, amynedd a chi defaid da i’w hel ynghyd.

“Wrth gerdded y mynydd mae dyn yn gweld rhyfeddodau natur, dyma dwi’n alw’n baradwys,” meddai Erwyd Howells ar y rhaglen. “Dwi’n teimlo’n rhan o’r lle – mae’n hollol unigryw.”

Traddodiadau’r Diwrnod Cneifio

Merlod yr Elenydd
Merlod yr Elenydd yn carlamu hyd yr erwau maith

Bydd yna gip hefyd ar y merlod mynydd sy’n dal i grwydro’n rhydd hyd yr erwau, ynghyd â sgwrs â Glyndwr Jones Claerwen, prif fugail ystâd Cwm Elan.

“Does dim lot o ni ar ôl sy’n gallu crynhoi yn y ffordd draddodiadol,” meddai.

“Mae bywyd yn hectic ma ganol haf wrth i ni grynhoi bob dydd.”

Ond wrth gwrs, does dim angen dyddiadur ar y bugeiliaid hyn i wybod pa bryd y bydd pawb yn hela ac yn cneifio eu defaid, oherwydd mae’r ffermwyr wedi arfer cadw at yr un dyddiad, a’r un traddodiad.

Does dim dwywaith fod y diwrnod cneifio yn ddiwrnod mawr i fugeiliaid y mynydd slawer dydd, gyda rhai degau o bobl yn tyrru ynghyd slawer dydd i roi help llaw a chymdeithasu hefyd.

Dyma lun o’m cyndeidiau ar ddiwrnod cneifio ar ein fferm deuluol ym Mhengraig, Cwmystwyth yn 1919.

Cneifio 1919
Diwrnod Cneifio Pengraig 1919
Llun: Megan Lewis

A dyma lun o’m teulu a’n cymdogion a fu wrthi’n cneifio gan mlynedd union yn ddiweddarach ar yr un fferm, ac yn yr un tŷ, sef y llynedd yn 2019. Tipyn o wahaniaeth mewn niferoedd, yn does?

Cneifio Pengraig 2019
Cneifio Pengraig 2019
Llun: Megan Lewis
  • Bydd rhaglen Hel y Mynydd, sy’n rhan o gyfres Drych, yn cael ei darlledu ar S4C nos Sul 12 Ionawr 2020 am 9pm.