Deiseb i leihau cyfyngder ym Mhenparcau i 20 milltir yr awr

Cofrestrodd Cynghorydd Dylan Wilson-Lewis deiseb i leihau cyflymdra ym Mhenparcau gyda Senedd Cymru

Mererid
gan Mererid
Dylan Lewis a George Barrett

Mae Cynghorydd Dylan Wilson-Lewis, sydd yn cynrychioli Plaid Cymru yn ward Penparcau, wedi cofrestru deiseb i leihau cyflymder ym Mhenparcau gyda Senedd Cymru.

Ar hyn o bryd, mae’r A487 yn ffurfio rhannu dwy ochr o ardaloedd preswyl Penparcau. Mae’r ddeiseb yn nodi y bydd lleihau’r terfyn cyflymder o 30 i 20 m.y.a. yn galluogi plant a’r gymuned leol i gael mynediad yn fwy diogel i’w hysgol leol, gweithgareddau cymunedol (a gynhelir mewn tair canolfan gymunedol a neuadd gyfagos), dwy eglwys, a maes chwarae parc.

Dywed Dylan “Mae lleihau cyflymder y ffordd yn cydymffurfio â Deddf Lles Cenedlaethau’r Dyfodol i leihau carbon a llygredd. Bydd yn annog mwy o bobl i gael mynediad at gyfleoedd Teithio Gweithredol ac isadeiledd beiciau lleol. Byddai hyn yn gwella diogelwch cymunedol, yn lleihau llygredd ac yn hyrwyddo cynaliadwyedd, a fyddai yn ei dro yn arwain at lai o anghydraddoldebau iechyd yn y gymuned leol.

Dylan Lewis

Fel cyn-ardal Cymunedau yn Gyntaf gyda ffactorau amddifadedd uwch na’r cyfartaledd, geilw’r ddeiseb ar i Lywodraeth Cymru weld hyn yn flaenoriaeth i hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol a delio gydag anghydraddoldeb.

Gallwch arwyddo’r ddeiseb yma: –

https://petitions.senedd.wales/petitions/200117

Etholwyd Dylan Wilson-Lewis yn Gynghorydd Tref Aberystwyth ym Mai 2017.

Gallwch ei ddilyn ar Twitter https://twitter.com/dylan_lewis?lang=en