Cystadleuaeth ‘Llaeth y llan’

gan Rhian Cory

Llongyfarchiadau mawr i Elis Wyn Jenkins, disgybl Ysgol Penrhyn-coch am greu lamp ddeniadol gan ail ddefnyddio potiau iogwrt cwmni ‘Llaeth y llan’.

Gyda 38 o geisiadau, yn ôl sôn roedd yn anodd i’r beirniaid ddewis allan o’r holl syniadau gwych!  Daeth dyluniad Elis ynghyd â 9 dyluniad arall, i’r brig yn y gystadleuaeth!!

O ganlyniad mae’r ysgol wedi ennill £1000.  Bydd Elis a chriw’r ‘Plant gwyrdd’ yn cael dod ynghyd i feddwl am syniadau sut maent am wario’r arian.

Gwnaeth ei ddyluniad argraff fawr ar y beirniaid:

Gareth Wyn Jones – “Syniad mor greadigol. Byddai’n edrych yn wych yn fy ystafell fyw! ”