gan
Rhian Cory
Llongyfarchiadau mawr i Elis Wyn Jenkins, disgybl Ysgol Penrhyn-coch am greu lamp ddeniadol gan ail ddefnyddio potiau iogwrt cwmni ‘Llaeth y llan’.
Gyda 38 o geisiadau, yn ôl sôn roedd yn anodd i’r beirniaid ddewis allan o’r holl syniadau gwych! Daeth dyluniad Elis ynghyd â 9 dyluniad arall, i’r brig yn y gystadleuaeth!!
O ganlyniad mae’r ysgol wedi ennill £1000. Bydd Elis a chriw’r ‘Plant gwyrdd’ yn cael dod ynghyd i feddwl am syniadau sut maent am wario’r arian.
Gwnaeth ei ddyluniad argraff fawr ar y beirniaid:
Gareth Wyn Jones – “Syniad mor greadigol. Byddai’n edrych yn wych yn fy ystafell fyw! ”