Cystadleuaeth Gwisg Ffansi Rhithiol Menter Aberystwyth

Newid y dyddiad cau ar gyfer y cystadleuaeth gwisg ffansi i ddydd Sadwrn 30ain o Fai

Mererid
gan Mererid

Eisiau rhywbeth i wneud penwythnos yma? Eisiau ennill gwobrau gwych? Gan nad oes modd cynnal carnifalau, mae Menter Aberystwyth yn gofyn i chi dynnu llun ohonoch chi mewn gwisg ffansi ar y thema “O Gwmpas y Byd”.

Fel arfer, bydd Menter Aberystwyth yn cynllunio ein Ffair Haf, felly, i gadw’r hwyl o Ffair Haf yn mynd, penderfynwyd rhedeg CYSTADLEUAETH GWISG FFANSI RHITH! ?

Y thema eleni yw O GWMPAS Y BYD ?

Mae pedwar categori:

? Plant
? Oedolion
? Teuluoedd
? Busnesau

Ie wir, busnesau, mae lle i chi gymryd rhan hefyd.

I gymeryd rhan, gwisgwch fyny, a rhannwch eich llun ar y cyfryngau cymdeithasol. Gan unai defnyddio’r hashnod #MENTERFFANSI neu tagiwch ni! Gallwch hefyd ebostio hefyd, ar menwww@aber.ac.uk.

AMSER CAU, 6yh nos Sadwrn 30ain Fai 2020.

Mi fydd gwobr i enillwyr bob categori!

Beth am gynnwys eich anifeiliaid anwes yn rhan o’r teulu hefyd?