Cynhadledd gyntaf lwyddiannus i Siarad Busnes Aberystwyth

Cynhaliwyd gynhadledd fusnes gyntaf Siarad Busnes Aberystwyth ar ddydd Mawrth, 10-3-2020.

Mererid
gan Mererid
Menter Aberystwyth

Ar ddydd Mawrth, 10fed o Fawrth 2020, cynhaliwyd cynhadledd fusnes gyntaf Siarad Busnes Aberystwyth. Roedd y diwrnod yn siawns i fusnesau yn y dref a’r ardal rhwydweithio, dysgu a sgwrsio.

Roedd 18 o stondinau yn Medrus Mawr (rhan o Brifysgol Aberystwyth), a mynychodd 70 o bobl. Bu’r adborth gan y stondinwyr ei fod yn ddigwyddiad gwych.

Cynhaliwyd 7 gweithdy yn ystod y dydd, gyda thua 20 yn mynychu ar unrhyw amser – gweithdai am ddim, i fusnes.

Hoffai’r trefnwyr ddiolch i’r noddwyr am eu helpu i greu diwrnod anhygoel, a hefyd i’r siaradwyr Dr Rhian Hayward ac Wyn Evans. Cafodd y digwyddiad ei noddi gan Gyngor Tref Aberystwyth, Prifysgol Aberystwyth, Advancing Aberystwyth Ar Y BlaenFederation of Small Businesses – WalesMenter a BusnesAberystwyth Ego.

Pwy yw Siarad Busnes Aberystwyth?

Kerry Ferguson – perchennog Gwe Cambrian a aelod o fwrdd Menter Aberystwyth yw prif sylfaenydd, ond mae croeso i chi ymuno nhw drwy’r dudalen Facebook yma: –

https://www.facebook.com/siaradbusnesaber/