Galw ar McDonald’s i daclo problem sbwriel Aber

Matthew Woolfall-Jones: “Rydw i wedi gofyn i McDonalds i fod yn ddyfeisgar er mwyn taclo’r broblem.”

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360
McDonalds Aberystwyth

McDonalds Aberystwyth

Mae Cynghorydd Sir Llanbadarn, Matthew Woolfall-Jones, wedi galw ar fwyty McDonald’s i daclo’r broblem sbwriel y mae’n cyfrannu ati yng Ngheredigion.

“Does dim rhaid i chi deithio’n bell yn Llanbadarn, nac ar hyd y ffyrdd yng Ngheredigion, nes eich bod chi’n dod ar draws sbwriel o McDonald’s. Mae’n fater sydd angen sylw, ac rydw i wedi gofyn i McDonald’s i fod yn ddyfeisgar er mwyn taclo’r broblem.”

Mewn llythyr at y cwmni dywedodd y Cynghorydd y dylai’r cwmni bwyd cyflym gymryd cyfrifoldeb drwy fuddsoddi mewn technoleg sy’n argraffu plât rhif ceir ar becynnau sy’n cael eu gwerthu yno.

“Mae McDonald’s eisoes yn argraffu sticeri i roi ar brydiau sydd wedi’u personoli, neu i wahaniaethu rhwng pecynnau bwyd tebyg.

“Rwy’n gofyn iddyn nhw ystyried buddsoddi mewn technoleg i helpu i wella’r amgylchedd ac i annog pobl i beidio twli eu gwastraff mas o’u ffenestri ceir.”

Un o weithwyr McDonald’s yn casglu sbwriel

Yn dilyn llythyr y cynghorydd roedd gweithwyr o fwyty McDonalds i’w gweld yn casglu sbwriel ar ochr Ffordd Parc y Llyn brynhawn Mawrth (11 Chwefror).

Er bod Matthew Woolfall-Jones yn falch o glywed hyn, dywedodd wrth golwg360 fod hyn yn broblem fwy eang na ger y bwyty McDonald’s yn Aberystwyth yn unig.

Cyfeiriodd at achos ym mis Tachwedd pan lwyddodd Swyddogion Gwastraff Cyngor Sir Powys i olrhain pecynnau McDonald’s oedd wedi eu gollwng ar ochr ffordd yng Nghwm Elan yn ôl i fwyty McDonald’s Aberystwyth.

Yn ôl y Cynghorydd:

“Mae’r ymchwiliad yma a arweiniodd at ddirwy o £75 am daflu ysbwriel 25 milltir o McDonald’s Aberystwyth yn dangos beth sy’n bosib.”

Mae golwg360 wedi gofyn i McDonald’s am ymateb.

Beth ddylid ei wneud?

Ydych chi’n un o gwsmeriaid ffyddlon McDonald’s?

A fyddech chi’n hapus i fanylion plât rhif eich cerbyd gael ei osod ar eich pecyn bwyd o McDonald’s?

Rhowch w’bod yn y sylwadau isod ?