Cyngerdd Adran Aberystwyth yn codi £1000 ar gyfer Ysbyty Bronglais

Dathlu 10 mlynedd ers sefydlu Adran Aberystwyth, a chodi £1000 i Uned Cemotherapi Bronglais

Catrin Mai Davies
gan Catrin Mai Davies

Nos Sul, 8 Rhagfyr, cynhaliwyd cyngerdd arbennig yn y Morlan, Aberystwyth, i ddathlu 10 mlynedd ers sefydlu Adran Aberystwyth. Wedi cyfnod prysur o ymarfer o dan arweiniad Helen Medi Williams a Lona Phillips, cafwyd noson arbennig iawn, a llwyddwyd i godi £1000 i Uned Cemotherapi Ysbyty Bronglais. Cafodd aelodau’r Adran gyfle i gyflwyno’r siec i Heulwen Lewis, sy’n gweithio yn yr Uned Cemotherapi, ac fe hoffai’r criw ddiolch i bawb a ddaeth i’w cefnogi ac i ymuno yn y dathlu.