Cymryd tymheredd pob plentyn a dim cinio ysgol arferol – y “normal newydd” i ddisgyblion Ceredigion

Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi amlinellu rhai o’i gynlluniau er mwyn ailagor ysgolion ddiwedd y mis

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360
Am ddim i BroAber360 / Papurau Bro

Cymryd tymheredd pob plentyn, glanhau ysgolion yn drylwyr bob nos, a chael gwared ar ginio ysgol arferol – dim ond rhai o’r cynlluniau y mae Cyngor Sir Ceredigion wedi’u hamlinellu er mwyn ailagor ysgolion ddiwedd y mis.

Yn dilyn cyhoeddiad y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, mae’r Cyngor eisoes wedi anfon holiadur at bob teulu i weld faint o blant fydd yn dychwelyd i’r ysgol pan fydd ysgolion yn ailagor ar Fehefin 29.

Yn ôl Cyngor Sir Ceredigion: “Bydd mynychu’r ysgol hefyd yn dechrau paratoi plant ar gyfer yr hyn a fydd y ‘normal newydd’ yn barod ar gyfer tymor yr Hydref.”

Mae ysgolion y sir wedi bod ynghau ers canol mis Mawrth a mater i rieni a gofalwyr fydd penderfynu a ddylid anfon eu plant yn ôl i’r ysgol ai peidio.

Bydd Hwb Gofal Plant ar gyfer plant gweithwyr allweddol yn dod i ben yng Ngheredigion ddydd Gwener Mehefin 19 er mwyn rhoi amser i ysgolion gynllunio ar gyfer ailagor.

Pa fesurau fydd ar waith yn ysgolion Ceredigion?

Prawf Tymheredd

Bydd tymheredd pob plentyn yn cael ei gymryd wrth gyrraedd yr ysgol.

Os bydd tymheredd plentyn dros 37.5oC, bydd gofyn i’r plentyn ac unrhyw aelodau o’r teulu hunanynysu am 14 diwrnod.

Ystafell ynysu

Bydd ystafell ynysu ym mhob ysgol ar gyfer disgyblion neu aelodau o staff sydd yn teimlo’n sâl.

Rheol 2 fetr

Bydd pob ysgol yn dilyn rheolau ymbellhau cymdeithasol, a bydd rhaid i ysgolion gyfrifo beth yw uchafswm y disgyblion y bydd modd eu cael i mewn i bob ystafell ddosbarth.

Nifer uchaf posibl y plant y gall ysgol ei derbyn ar unrhyw ddiwrnod yw traean capasiti’r ysgol.

Dim cinio ysgol arferol

Ni fydd prydau bwyd ysgol yn cael eu darparu mewn unrhyw ysgol. Bydd gofyn i bob plentyn ddod â phecyn bwyd a photel ddŵr ei hun.

Bydd disgyblion sy’n cael prydau ysgol am ddim eisoes wedi derbyn taliad neu daleb archfarchnad i brynu bwyd.

Amser egwyl

Ni fydd pawb yn cael amser egwyl a chinio ar yr un pryd.

Glanhau

Bydd ystafelloedd dosbarth ac ardaloedd cyffredin yn cael eu sychu’n lân yn rheolaidd, a bydd ysgolion yn cael eu glanhau’n drylwyr bob nos.

Offer PPE

Bydd y Cyngor yn darparu offer diogelu personol i ysgolion.

Cludiant

Dim ond nifer fach o ddisgyblion fydd yn gallu mynd ar bob bws, ac mae’r Cyngor wrthi’n cydweithio â’r cwmnïau bysiau.

Eglurodd y Cyngor: “Ni allwn warantu ar hyn o bryd y bydd bysiau yn rhedeg ar hyd bob llwybr bws, gan mai diogelwch ein disgyblion fydd y flaenoriaeth.”

Hebrwng a chasglu plant

Dim ond un rhiant neu ofalwr fydd yn cael hebrwng plentyn i’r ysgol a chasglu plentyn o’r ysgol.

Dim rhannu offer

Bydd angen i bob plentyn fynd â châs pensiliau eu hunain i’r ysgol a ni fyddant yn cael rhannu eu hadnoddau gyda phlant eraill na’r staff.

Arwyddion

Bydd arwyddion clir o amgylch yr ysgol yn pwysleisio pwysigrwydd golchi dwylo, hylendid a chadw pellter cymdeithasol.

 

Elwa o fynychu’r ysgol

Mae’r Cyngor yn ffyddiog bydd mynychu’r ysgol yn fuddiol i’r disgyblion.

Yn ôl y Cyngor bydd hefyd yn gyfle i ddisgyblion ym mlwyddyn 10 a 12  yn benodol gael cymorth pellach gyda’u gwaith TGAU a Safon Uwch.

Dywedodd Cyngor Sir Ceredigion: “Bydd pob disgybl yn elwa o fynychu’r ysgol am un sesiwn neu fwy’r wythnos, gan y bydd yn gyfle iddynt gyfarfod â’u hathro a gweld eu cyfoedion.

“Bydd yn gyfle i gofrestru, dal i fyny, a pharatoi ar gyfer yr haf a mis Medi.

“Bydd mynychu’r ysgol hefyd yn dechrau paratoi plant ar gyfer yr hyn a fydd y ‘normal newydd’ yn barod ar gyfer tymor yr Hydref.”

Yn ogystal â chyswllt wyneb yn wyneb mae’r Cyngor wedi cadarnhau bydd dysgu o bell yn parhau i gael ei ddefnyddio.

Bydd gan bob ysgol ei chynllun ailagor ei hun ac mae disgwyl i ysgolion ddarparu rhagor o wybodaeth dros yr wythnosau nesaf.

Nid yw’n glir eto beth fydd y sefyllfa ym mis Medi.