Cyhoeddi ymgeisydd y Ceidwadwyr ar gyfer etholiadau Senedd Cymru  

Dyma’r ail waith i Amanda Jenner sefyll yn etholaeth Ceredigion 

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Daeth cyhoeddiad yr wythnos hon mai Amanda Jenner fydd ymgeisydd y Ceidwadwyr yng Ngheredigion ar gyfer etholiadau Senedd Cymru.

Mae Amanda Jenner yn Gynghorydd Sir Powys ac yn gyn-fyfyrwraig ym Mhrifysgol Aberystwyth.

“Mae’r ardal yn agos iawn at fy nghalon – rydw i wedi astudio yma ac mae gen i gysylltiadau teuluol yn Nhregaron,” meddai.

Mae’r cyn-gyfreithiwr yn nodi bod busnes a ffarmio ymhlith rhai o’i phrif flaenoriaethau.

Dyma’r ail dro iddi sefyll yn etholaeth Ceredigion, wedi iddi ddod yn ail i Blaid Cymru yn yr etholiad cyffredinol llynedd.

Mae Elin Jones o Blaid Cymru wedi cynrychioli Ceredigion yn y Senedd ers 1999 ac wedi bod yn Llywydd ers 2016.

Enillodd yr etholiad yn 2016 gyda’r mwyafrif o 8.2% o’r bleidlais.

Y brodor o Geredigion, Cadan ap Tomos fydd yn cynrychioli’r Democratiaid Rhyddfrydol

“Mae Ceredigion yn fy nghalon ac yn fy ngwaed,” meddai Cadan ap Tomos.

“Mae’r profiadau o’m magwraeth yr ardal wedi cyfrannu gymaint tuag at y person rydw i heddiw ac am hynny rwy’n hynod ddiolchgar.”

Mae disgwyl i’r blaid Lafur gyhoeddi ei hymgeisydd yn fuan.

Bydd etholiadau’r Senedd yn cael eu cynnal Mai 6, 2021