Cyhoeddi enillwyr olaf y ffotomarathon

Cyhoeddi enwau rhagor o enillwyr cystadlaethau ffotomarathon rhithiol FfotoAber

gan Deian Creunant

Yr wythnos hon cyhoeddwyd enwau’r gwahanol enillwyr am 6 o’r gloch nos Fawrth a nos Fercher. 

Heno (nos Iau) cyhoeddwyd enillwyr y ddwy thema olaf a’r enillydd am y set o chwe llun yn y categori agored. 

Yr enillydd yn y categori agored yw Kate Woodward o Aberystwyth a bydd yn derbyn taleb ar gyfer siop fwyd a diod Ultracomida.  

Rhoddodd y beirniad, y ffotograffydd Kristina Banholzer, ganmoliaeth uchel hefyd i Martin Edwards, Wyn Griffith a Kaloyan Cholakovg, gan nodi pa mor anodd oedd dewis enillydd o blith yr holl gystadleuwyr, cystal oedd y safon. 

Yn ôl Kristina wrth drafod casgliad Kate:

“Roeddwn yn hoff iawn o’r palette lliwiau ac rwy’n teimlo i ni gael ‘snapshot’ o fywyd yn y cyfnod clo yma a bod y set yn dweud stori. Mae ’na deimlad neis, cartrefol i’r set.” 

Yn ennill am ei llun ar y thema O Bell mae Elenor Nicholas, wnaeth hefyd ennill am ei chwe llun yn y categori cynradd. 

Tom Oldridge enillodd am ei lun ar y thema Llawnder, ac mae yntau eto’n ennill am yr eilwaith yn dilyn ei lwyddiant am dynnu llun ar y thema gyntaf, Clyd.  

Rhoddwyd canmoliaeth uchel hefyd i’r canlynol am eu lluniau ar y themâu hyn – Martin Edwards, Nia Medi James, Mary Davies a Gareth Revell.