Cyhoeddi enillwyr cyntaf y ffotomarathon

Cynhaliwyd ffofomarathon rithiol FfotoAber dros y penwythnos a gyda’n agos at 200 o gystadleuwyr yn rhan ohoni roedd y gystadleuaeth yn frwd.

gan Deian Creunant

Yr wythnos hon cyhoeddir enwau’r enillwyr am 6 o’r gloch nos Fawrth, nos Fercher a nos Iau. 

Heno (nos Fawrth) cyhoeddwyd enillwyr y ddwy thema gyntaf a’r enillydd am y set o chwe llun yn yr oed cynradd. 

Yr enillydd cynradd yw Elenor Nicholas o Aberystwyth, a bydd yn derbyn pecyn o lyfrau gwych. 

Rhoddodd y beirniad, y ffotograffydd Kristina Banholzer, ganmoliaeth uchel hefyd i Llew Salisbury, Hedydd Beechey a Martha Rhys Cosson, gan nodi yn ogystal fod y safon drwyddi draw yn yr oed hwn yn anhygoel o uchel. 

Yn ennill am ei lun ar y thema Clyd mae Tom Oldridge, ac am ei lun ar y thema Tri (3) yr enillydd yw Rob Stephen. 

Rhoddwyd canmoliaeth uchel hefyd i’r canlynol am eu lluniau ar y themâu hyn – Edwina Stephen, Catrin Owen (Clyd) a Marsli Eluned Owen, Eurgain Phylip (Tri). 

Yfory (nos Fercher) am 6 cyhoeddir yr enillydd yn y categori uwchradd a dwy thema arall.