Cyflwyno siec i’r Beiciau Gwaed

Angharad Morgan
gan Angharad Morgan

Ar nos Sadwrn 29 Chwefror cynhaliwyd Cawl a Chân blynyddol Merched y Wawr cangen Llanafan. Cafwyd noson hyfryd gyda’r gymuned wedi dod at ei gilydd i ddathlu Gŵyl Ddewi. Y pedwarawd Harmoni o ardal Aberaeron oedd yr adloniant gyda’r gynulleidfa wedi’u plesio’n fawr iawn!

Ar gychwyn y noson mi groesawyd gwirfoddolwyr o’r elusen Blood Bikes i dderbyn siec o £800. Codwyd yr arian yma dros gyfnod y Nadolig gydag aelodau’r gangen yn mentro allan gyda’r nos i ganu carolau o amgylch yr ardal. Braf iawn oedd medru eu gwahodd i dderbyn yr arian ac i roi ychydig o wybodaeth i’r gynulleidfa ynglŷn a gwaith yr elusen.