gan
Ohebydd Golwg360
Mae gofyniad wedi cael ei gyflwyno i dafarn ym Mhontarfynach wneud gwelliannau i ddiogelu iechyd a llesiant y cyhoedd, er mwyn atal lledaeniad y coronafeirws.
Cafodd Hysbysiad Gwella Mangre ei gyflwyno i dafarn Yr Hafod yn dilyn ymweliad gan Swyddogion Diogelu’r Cyhoedd Cyngor Sir Ceredigion.
Yn ystod yr ymweliad, dywedodd y swyddogion bod angen gwelliannau er mwyn cydymffurfio â Rheoliadau Diogelu Iechyd yn sgil cyfyngiadau’r coronafeirws.
Mae’r gwelliannau’n cynnwys:
- sicrhau y cedwir pellter o 2 fetr rhwng pobl
- rhoi mesurau ar waith sy’n cyfyngu ar ryngweithio wyneb yn wyneb agos
- cynnal hylendid
Bydd yn rhaid i’r mesurau hyn gael eu cyflwyno erbyn 5 o’r gloch 27 Tachwedd, 2020.
Gellir dod o hyd i’r hysbysiad llawn ar wefan Cyngor Sir Ceredigion fan hyn.
Mae gwybodaeth i fusnesau ar gael ar wefan y Cyngor o dan Cefnogi Economi Ceredigion.