Cyfle unigryw i ddysgwyr Ceredigion

Chwilio am bobl sydd am ddysgu Cymraeg.Chwilio am siaradwyr Cymraeg i roi cymorth iddynt.

gan Medi James

Ar ôl gorfod gohirio’r Eisteddfod Genedlaethol eleni, mae golygon pawb yn troi i’r flwyddyn nesaf, gyda’r Brifwyl i’w chynnal yng Ngheredigion am y tro cyntaf am bron i ddeng mlynedd ar hugain.

Gyda’r rhan fwyaf o’r gwaith codi arian wedi’i gwblhau, hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth yw’r flaenoriaeth eleni, ac mae’r pwyllgor Dysgu Cymraeg lleol wedi creu cynllun “Byddwch yn un o’r miliwn”, sy’n rhoi cyfle i ddysgwyr Cymraeg brwd ar draws y sir gael cefnogaeth aelodau o’r pwyllgorau lleol wrth iddynt fynd ati i ddysgu’r iaith dros y flwyddyn nesaf.

Y bwriad yw defnyddio’r Gymraeg fel abwyd i annog oedolion i ddysgu Cymraeg, ac mae syniad y pwyllgor lleol yn gyfle gwych i ehangu apêl yr Eisteddfod, yn ôl y cadeirydd, Medi James, “Ry’n ni’n awyddus i ddefnyddio’r flwyddyn nesaf yn codi ymwybyddiaeth am y brifwyl ac i ddenu rhagor o bobl i fod yn rhan o’r gweithgareddau cyffrous.

“Y nod yw denu dysgwyr i gychwyn a pharhau â gwersi Cymraeg yn y gobaith y byddan nhw’n barod i weithio ar y maes y flwyddyn nesaf, gyda hyn yn rhoi hwb iddyn nhw barhau gyda’r dysgu.”

Nod y pwyllgor yw cynnig cyfleoedd ategol i ddysgwyr sgwrsio gyda siaradwyr Cymraeg dros y gaeaf, er mwyn datblygu’u hyder, fel eu bod yn barod i gymryd rhan a chynorthwyo mewn pabell o’u dewis yn yr Eisteddfod y flwyddyn nesaf.

Mae angen symud yn gyflym, gan fod rhaid i’r rheini sydd â diddordeb mewn ymuno â’r cynllun gysylltu â Medi cyn dydd Llun 14 Medi, gyda’r gwersi’n cychwyn yn fuan wedyn. Mae’r cynllun ar agor i unrhyw un sy’n byw yn ardal Ceredigion sy’n awyddus i ddechrau dysgu Cymraeg neu sydd am wella’u Cymraeg.

Noddir y cynllun gan Bro 360 ac Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Aberystwyth, ac meddai Lowri Jones o Bro 360, “Mae’r cynllun cyffrous yma’n estyn allan i’r di-Gymraeg ac yn manteisio ar sefyllfa unigryw ddaeth yn sgil Covid-19, gan greu rhywbeth cadarnhaol.

“Mae datblygu’r cyfleoedd sydd ar gael i’r di-Gymraeg yn rhan greiddiol o’n gwaith gyda’r gwefannau bro yng Ngheredigion (ac ardal Arfon), ac ry’n ni’n falch iawn o estyn cefnogaeth a chreu rheswm a phlatfform i’r dysgwyr ddefnyddio’r Gymraeg sy’ ‘da nhw.”

Ychwanegodd Pennaeth Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, Prifysgol Aberystwyth, Dr Cathryn Charnell-White, “Rydym yn falch iawn o gefnogi’r cynllun hwn ar y cyd â Bro 360 a’r Eisteddfod Genedlaethol. Mae cynnig cyfleoedd i ddysgwyr y Gymraeg gael cyfoethogi eu profiad o’r iaith a’i diwylliant yn bwysig dros ben i ni fel Adran ac yn gwbl ganolog i’n cenhadaeth”.

Mae’r cynllun hwn ar gael i ddysgwyr a darpar ddysgwyr ar unrhyw lefel. Mynediad yw’r lefel cychwynnol sy’n cyflwyno geirfa a phatrymau iaith syml, gyda’r pwyslais ar siarad Cymraeg. Y lefel nesaf yw mynediad, lle ceir ychydig mwy o ddarllen ac ysgrifennu yn ogystal â rhagor o siarad a phatrymau iaith.

Dylai unrhyw un sydd â diddordeb gysylltu gyda Medi James ar 07855 491 022 / medijames22@gmail.com.

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion yn Nhregaron o 31 Gorffennaf – 7 Awst 2021. Am ragor o wybodaeth ewch i www.eisteddfod.cymru.