Cwsmeriaid “ddim yn teimlo’n saff” mewn archfarchnad yn Aberystwyth

Cyhuddo archfarchnad Morrisons yn Aberystwyth o beidio dilyn rheolau ymbellhau cymdeithasol.

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360
Golwg360

Morrisons Aberystwyth

Mae pobol leol wedi cyhuddo archfarchnad Morrisons yn Aberystwyth o beidio dilyn rheolau ymbellhau cymdeithasol.

Dywedodd un cwsmer fod gan yr archfarchnad “ddiffyg rheolaeth” dros staff, a chadarnhaodd un arall ei fod wedi riportio’r archfarchnad yn Aberystwyth i safonau masnachu.

Eglurodd Anna ap Robert sydd wedi bod yn siopa yn yr archfarchnad yn ystod y cyfnod clo fod y sefyllfa wedi gwaethygu ers i’r cyfyngiadau ddod i rym fis Mawrth.

“Doeddwn i ddim yn teimlo’n saff yno”, meddai.

“Er bod rhaid i gwsmeriaid giwio tu allan, doedd dim system un ffordd yn y siop a phawb yn cael mynd fel oedden nhw moyn – felly roedd pawb yn mynd i wahanol gyfeiriadau.

“Wrth i bobol a staff anwybyddu’r rheol dwy fetr, oedd hi bron fel bod dim byd yn wahanol iddyn nhw.”

Galw am reolau llymach

Rhybuddiodd Anna ap Robert gallai’r sefyllfa waethygu os yw pobol yn parhau i anwybyddu’r rheolau.

“Nawr bod pawb yn cael mynd lle ma’ nhw moyn dylai’r rheolau yma fod yn llymach er mwyn gwneud yn siŵr ein bod ni’n gallu cadw dwy fetr.

“Dydy’r covid ddim wedi mynd, does dim brechiad eto, mae’n hollbwysig fod Cyngor Ceredigion yn gwneud rhywbeth am hyn cyn bod hi rhy hwyr.”

Mae Golwg360 wedi gofyn i Gyngor Sir Ceredigion am ymateb.

Ceredigion sydd yn parhau i fod a’r cyfradd lleiaf o farwolaethau coronafeirws yng Nghymru.

Er hyn mae rhai eisoes wedi mynegi eu pryderon am y cynnydd yn nifer yr ymwelwyr oedd yn ymgynnull yn Aberystwyth y penwythnos diwethaf.

Cafodd y cyfyngiadau teithio eu llacio gan Lywodraeth Cymru wythnos diwethaf, sy’n golygu bod ymwelwyr yn cael teithio i Gymru a theithio o amgylch y wlad am y tro cyntaf.

“Gofyn i gwsmeriaid barchu ei gilydd”

Dywedodd llefarydd ar ran Morrisons Aberystwyth wrth Golwg360: “Rydym yn gweithio’n galed i sicrhau bod cwsmeriaid a chydweithwyr yn ddiogel.

“Dim ond nifer penodol o gwsmeriaid sydd yn cael eu gadael i mewn i’r siop ar unrhyw adeg.

“Os bydd tagfeydd ar eil penodol, byddem yn gofyn i gwsmeriaid barchu ei gilydd a’n cydweithwyr trwy gadw at y canllawiau ymbellhau cymdeithasol.

“Mae rhagor o wybodaeth am fesurau rydym wedi’u cyflwyno ar ein gwefan.”

Ar ôl i Golwg360 gysylltu â’r archfarchnad mae rhagor o orsafoedd hylendid ychwanegol hefyd wedi eu gosod yn yr archfarchnad ac mae staff bellach yn gwisgo mygydau wrth weithio.

1 sylw

Teilo Trimble
Teilo Trimble

Es i yno hwyr Nos Wener diwethaf: Llond llaw o gwsmeriaid digon hawdd i gadw pellder. Dwi yn credu ta waith mae nifer o bobl yn cyffridinol ddim yn dilyn canllawiau 2 fetr enwedig ymwelwyr nifer helaeth o loegr ble mae canllawiau yn wahannol. Dwi ddim yn siwr os mae’n deg i grybwyll un archfarchad oherwydd profiad un cwsmer.

Mae’r sylwadau wedi cau.