Dydd Sadwrn 25 o Ionawr, dinas Bangor oedd gwrthwynebwyr tîm pêl-droed Penrhyn-coch. Gyda’r ddau dîm yn gydradd o ran pwyntiau (29 yr un), roedd yn gêm bwysig iawn. Penrhyn-coch oedd a’r fantais yn chwarae gartref ar Gae Baker. Gêm gyfartal oedd hi (0-0), gyda Bangor ychydig ar y blaen yn y gynghrair oherwydd nifer y goliau. Dymunir yn dda i Lance Jones a gafodd ddamwain ac anaf i’w ben-glin.
Un o uchafbwyntiau’r gêm i’r cefnogwr oedd cael cwrdd â rheolwr Dinas Bangor, Pedro Pasculli. Mae Pedro Pablo Pasculli yn gyn-bêl-droediwr o’r Ariannin. Treuliodd y rhan fwyaf o’i yrfa gydag Argentinos Juniors a’r clwb Eidalaidd Lecce. Ar lefel ryngwladol, enillodd Gwpan y Byd FIFA 1986 gyda’r Ariannin, a daeth yn bedwerydd yng Nghopa América ym 1987.
Treuliwyd gyrfa reoli Pasculli yn bennaf yng nghynghreiriau isaf pêl-droed yr Eidal, ond bu hefyd yng ngofal Uganda yn 2003, ac yn rheoli am ddau gyfnod byr yn Dinamo Tirana yn Albania.
Cafodd y cefnogwr ifanc gyfle i gael llun gyda Pedro.
Gallwch ddilyn hanes Clwb Pêl-droed Penrhyncoch ar https://penrhyncochfcwebsi.wixsite.com/website/club-news