gan
Ohebydd Golwg360
Cafodd criw bad achub Aberystwyth eu galw neithiwr i gynorthwyo cwch bysgota oedd wedi mynd yn sownd ar y creigiau wrth geg yr harbwr.
Llwyddodd y bad achub i gadw’r cwch yn llonydd a’i atal rhag cael ei wthio ymhellach tuag at y creigiau.
Wrth i’r llanw godi, fe lwyddodd y criw i dynnu’r cwch oddi ar y creigiau yn araf bach, i mewn i ddŵr dyfnach.
Bellach, mae’r cwch a’r bad achub yn ôl yn saff yn yr harbwr.