Cwblhaodd Llinos Young o Aberystwyth bortread 17,300 croesbwyth, o Henry Richard ar gyfer arddangosfa a gynlluniwyd ar gyfer Cymdeithas Brodwaith Cymru yn ystafell Seddon yr Hen Goleg. Yn yr erthygl hon, mae Llinos am atgoffa pawb o waith diflino Henry Richard dros heddwch rhyngwladol a thegwch i bobl Cymru.
Pam Henry Richards?
Mae’n fis olaf 2020. Er taw ar ddechrau blwyddyn mae’n arferol i edrych yn ôl dros y flwyddyn, rwyf am fynd nôl yn bellach na misoedd rhyfedd eleni – yn enwedig mis Awst pan na chynhaliwyd Eisteddfod Tregaron. A! Dyna fi wedi ei ddweud “Tregaron”, yn lle Eisteddfod Ceredigion. Siwd ichi yn teimlo am ei galw yn Eisteddfod Tregaron? Wel i fi mae rhywbeth Cymreig mewn lleoli person, neu le, neu ddigwyddiad yn yr union fan ar y map: lle mae’n dod, lle mae’n byw neu lle mae’r digwyddiad? Y mae Tregaron yng nghanolbarth Ceredigion ac yn le delfrydol a nodedig i gynnal ac i gydnabod digwyddiad mawr diwylliannol Cymru, sef yr Eisteddfod. Ble yn hollol yng nghanolbarth Ceredigion y mae Tregaron, wel fel y dywedodd rhywun unwaith, “Y tu fas i’r Talbot”! Ac yno ar y sgwâr, fel y gwesty y saif cofgolofn i un o wleidyddion enwocaf a mwyaf dylanwadol Cymru yn y 19g, sef Henry Richard. Mae 2020 wedi bod yn flwyddyn drist iawn, gyda’r pla mawr sydd wedi dod ar ein traws, a gwleidyddion wedi bod yn weledol barhaol yn ein bywydau ar y cyfryngau. Wel, mae’r gŵr sy’n sefyll tu fas i’r Talbot yno’n weledol ac yn barhaol. Rwyf am fynd ar daith yn ôl dros ddwy ganrif i Dregaron i’r flwyddyn 1812 i wybod ychydig am yr ‘Apostol Heddwch’,’ Henry Richard.
Dechrau bywyd
Mewn bwthyn to gwellt, nad yw yno bellach wrth ochor gwesty’r Talbot ar y 3ydd o Ebrill, 1812 y ganwyd Henry Richard, union ddau fis ar ôl y nofelydd Charles Dickens i’w roi mewn cyd-destun llenyddol, hanesyddol Prydeinig. Roedd yn ail fab i Ebenezer Richard (gweinidog cyntaf Capel Bwlch y Gwynt, Tregaron) a Mary Williams o Llanfair Clydogau. Symudodd y teulu 4 mis ar ôl geni Henry o’r bwthyn i Prospect House, sydd ochr arall y bont dros yr afon Brenig.
Cafodd ei addysg gynnar yn Ysgol Ramadeg Llangeitho a phan oedd yn 14 oed, aeth Henry yn brentis mewn siop ddillad John Lewis yng Nghaerfyrddin am dair blynedd. Yn ystod ei amser yno, clywodd Samuel Roberts, (SR) gweinidog gyda’r Annibynwyr yn Llanbrynmair yn rhoi anerchiad ar ran y Gymdeithas Heddwch. Roedd hwn yn ddigwyddiad a ddylanwadodd ar Henry Richard yn natblygiad ei gred a’i athroniaeth mewn heddychiaeth ac ymneilltuaeth radical Gymreig. Pan oedd Henry yn 18 oed aeth i siop ddillad John Matthews yn y Bristol Emporium yn Aberystwyth.
Cafodd gefnogaeth ei dad i fynychu’r Athrofa Highbury, sefydliad addysgol yr Annibynwyr yn Llundain i hyfforddi i fod yn weinidog. Yn 1835, ar ôl cael ei ordeinio aeth yn weinidog i Gapel Marlborough yn Old Kent Road, Llundain.
Y Gymdeithas Heddwch
Ymddiswyddodd o fod yn weinidog yn 1850 i fod yn Ysgrifennydd llawn-amser i’r Gymdeithas Heddwch. Roedd eisoes wedi bod yn weithgar yn y swydd yn rhan-amser am ddwy flynedd cyn hynny. Prif waith Henry Richard oedd hyrwyddo cymod fel ffordd i ddatrys gwrthdaro neu ddadleuon rhyngwladol. Mynychodd a threfnodd nifer o gynadleddau heddwch ym Mrwsel, Paris, Frankfurt a Llundain. Yn 1856, ar ddiwedd rhyfel y Crimea, aeth Henry Richard i Baris gyda’i gyd-aelodau i bwyso i ychwanegu cymal yng Nghytundeb Paris a fyddai’n hyrwyddo cymod. Llwyddodd yn ei ymgais a dyma’r tro cyntaf yn hanes Ewrop y cafwyd cymal mewn cytundeb rhyfel o blaid hyrwyddo cymod. Oherwydd y gwaith hwn, fe ddaeth yn adnabyddus drwy Ewrop ac yn yr Unol Daleithiau tan iddo ymddiswyddo yn 1885.
Gyrfa wleidyddol
Yn 1865, safodd fel ymgeisydd seneddol yng Ngheredigion ond tynnodd yn ôl gan fod ymgeisydd arall wedi rhoi ei enw ymlaen. Yn yr etholiad yn 1868, fei’i etholwyd fel aelod Seneddol Merthyr Tydfil gyda mwyafrif o 4,000. Cadwodd ei sedd tan ei farwolaeth yn 1888. Fe’i gelwid ‘Yr Aelod dros Gymru’ oherwydd cymaint oedd ei gonsyrn dros faterion Cymreig. Yn ei araith gyntaf yn Nhŷ’r Cyffredin fe siaradodd yn erbyn tirfeddianwyr Ceidwadol oedd yn llawdrwm ar denantiaid nad oedd wedi pleidleisio drostynt yn yr etholiad, drwy eu taflu allan o’u tai. Wrth ddadlennu hyn, fe arweiniodd at ddeddf i gael pleidlais ddirgel yn 1871 a gefnogwyd gan Henry Richard i’r carn.
Daliodd ati i gefnogi heddwch, ac yn 1873, pasiwyd ei gynnig o blaid hyrwyddo cymod rhyngwladol yn Nhŷ’r Cyffredin. Aeth ar daith ryngwladol i hyrwyddo’r mudiad heddwch drwy ymweld a siarad gydag arweinwyr tramor. Bu ym Merlin yn 1878 i geisio cael fwy o gydnabyddiaeth i gymod a chymodi yng Nghytundeb Berlin, tebyg i’r hyn roddwyd i mewn yng Nghytundeb Paris. Wedi iddo gyrraedd nôl i Lundain, fe gyflwynodd gynnig yn Nhŷ’r Cyffredin a dderbyniwyd gan y llywodraeth o blaid diarfogi graddol ar y cyd gyda gwledydd eraill.
Henry ac Addysg
Roedd gan Henry Richard ddiddordeb ysol yn addysg Cymru. Gwasanaethodd yn 1880 ar bwyllgor oedd yn gyfrifol am ymchwilio i gyflwr addysg ganolradd ac uwch yng Nghymru a arweiniodd at Ddeddf Addysg Ganolradd Cymru 1889 a sefydlu Prifysgol Cymru yn 1893. Yn 1886, fe ddaeth yn aelod o’r Comisiwn Brenhinol ar addysg. O dan ei argymhelliad ef, awgrymodd y Comisiwn y dylid defnyddio’r Gymraeg yn ysgolion cynradd Cymru. Wrth gwrs, Ysgol Henry Richard yw’r ysgol yn Nhregaron o oedran 3 i 16 mlwydd oed bellach.
Bu farw Henry Richard yn sydyn pan oedd ar ei wyliau yn Nhreborth Bangor, yn Awst 1888 yn nhŷ ei ffrind oes o Ferthyr, David Thomas, Uchel Siryf Môn. Dygwyd ei gorff yn ôl i Lundain ac mae wedi ei gladdu ym Mynwent Abney Park.
Ei waith rhyngwladol diflino yn erbyn rhyfeloedd roddodd iddo’r enw Apostol Heddwch ac mae’r gofgolofn iddo yn Nhregaron yn datgan yn ei eiriau ei hun:
‘gorwedd fy ngobeithion am ddifodiant y gyfundrefn ryfel yn argyhoeddiad parhaus y bobl, yn hytrach nag ym mholisïau cabinet a thrafodaethau senedd.’
Wrth edrych ymlaen at Eisteddfod Ceredigion, gallwn gofio am y tri pheth yr oedd Henry Richard yn wastad yn eu cofio sydd wedi ei sgrifennu ar ei gofgolofn:
“peidio anghofio iaith fy ngwlad; a phobl ac achos fy ngwlad; a pheidio esgeuluso unrhyw gyfle i amddiffyn cymeriad a hyrwyddo buddiannau fy ngwlad’.