Croesawu newidiadau i grantiau ailgartrefi

Ail gartrefi yng Nghymru ddim yn gymwys i dderbyn grant o £10,000

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Ymgyrch Croeso Cymru sy’n annog pobol i beidio teithio i Gymru oherwydd y coronafeirws – Llun Croeso Cymru

Ymgyrch Croeso Cymru sy’n annog pobol i beidio teithio i Gymru oherwydd y coronafeirws – Llun Croeso Cymru

Ni fydd perchnogion ail gartrefi yng Nghymru yn gallu hawlio grantiau cymorth yn ystod argyfwng y coronafeirws ar ôl i Lywodraeth Cymru addasu eu canllawiau gwreiddiol ar gyfer darparu grantiau i gynorthwyo busnesau bach.

Byddai canllawiau gwreiddiol Llywodraeth Cymru wedi golygu y byddai perchnogion ail gartrefi a oedd wedi eu cofrestru fel busnes er mwyn osgoi talu treth yn gymwys i dderbyn grant o £10,000 fel rhan o becyn £1.1bn y Llywodraeth.

Roedd arweinydd Cyngor Sir Ceredigion ymhlith y cynghorau sir ledled Cymru oedd yn cefnogi cais Cyngor Gwynedd i newid y canllawiau.

Bydd y newidiadau i ganllaw grantiau busnes ddim yn amharu ar fusnesau gwyliau yng Nghymru.

Cefnogi’r economi leol

Mae’r Aelod Seneddol, Ben Lake wedi croesawu’r newidiadau.

Dywedodd Ben Lake wrth golwg360 “Rwy’n croesawu’r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi addasu eu canllawiau gwreiddiol ar gyfer darparu grantiau i gynorthwyo busnesau bach sydd yn dioddef yn ystod yr argyfwng coronafeirws.

“Yr hyn sy’n bwysig nawr yw bod y ceisiadau hynny gan berchnogion llety gwyliau – sy’n gwneud cyfraniad enfawr i’r economi lleol yng Ngheredigion – yn derbyn y gefnogaeth ariannol sy’n ddyledus iddynt.”

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Rydyn ni wedi mireinio rhai o’r meini prawf er mwyn sicrhau bod busnesau sydd angen y grant fwyaf, yn cael eu cefnogi.

“Mae gwneud hyn wedi cymryd llawer o waith a chydweithrediad ac rydym yn diolch i awdurdodau lleol ledled Cymru am eu cyfraniadau.”

Heddlu Cymru i ddarparu cyngor ynglŷn â theithio i ail gartrefi

Daw’r newid wrth i Lywodraeth Cymru gryfhau’r rheolau aros gartref yng Nghymru er mwyn parhau i atal lledaeniad y coronafeirws.

Ymhlith y newidiadau mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i bedwar heddlu Cymru ddarparu cyngor pellach ynghylch a oes angen i’r ddarpariaeth bresennol i atal pobl rhag teithio i ail gartrefi yng Nghymru gael ei chryfhau ymhellach.

Mae’r canllawiau presennol yn nodi bod teithio pan nad yw’n hanfodol, gan gynnwys i ail gartrefi yn anghyfreithlon.

Er hyn mae llythyr agored gan 15 o ddoctoriaid arbenigol yng Nghymru yn dweud fod hyn yn “annigonol” ac wedi galw ar Lywodraeth Cymru i wneud defnydd o ail gartrefi yn gwbl anghyfreithlon.

Mae’r Prif Weinidog, Mark Drakeford wedi cyhoeddi fframwaith newydd i helpu i arwain Cymru allan o’r pandemig.

Un cyngor sir yn arbed hyd at £20miliwn

Roedd Cyngor Gwynedd yn amcangyfrif byddai canllawiau gwreiddiol Llywodraeth Cymru wedi costio rhwng £15miliwn a £20miliwn o arian cyhoeddus yng Ngwynedd yn unig, ac wedi galw am newid i’r canllawiau.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn: “Rydym yn hyderus bod y geiriad newydd yn golygu na fydd perchennog unrhyw ail gartref yn gallu hawlio arian grant heb gyflwyno tystiolaeth bod y rhan helaeth o’u hincwm yn deillio o’r eiddo.

“Roedd hi’n anfoesol fod gan unigolion cyfoethog sy’n berchen ar ail gartrefi fynediad i’r pecyn cymorth ariannol.

“Fel Cyngor rydym yn falch bod y Gweinidog Llywodraeth Leol, Julie James wedi gwrando arnom ac wedi derbyn ein dadleuon.

“Wrth gwrs, yn wahanol i ail gartrefi, mae busnesau gosod unedau gwyliau gwirioneddol yn parhau i fod yn gymwys i dderbyn yr arian yma, a byddwn yn eu hannog i gyflwyno cais i’r Cyngor os nad ydynt eisoes wedi gwneud hynny.”