Noson Crochan Aur Bro Aber i ddyfarnu cyllid i elusennau

Dosbarthwyd £14,000 mewn sesiwn cyfranogi ar Zoom i amrywiol o brosiectau yn ardal Aberystwyth.

Mererid
gan Mererid

Mewn prosiect ar y cyd, dosbarthwyd £14,000 i amrywiol elusennau yn ardal Aberystwyth. Darparwyd y cyllid gan Gomisiynydd Heddlu Dyfed Powys (£10,000), Cyngor Tref Aberystwyth (£500), Cymdeithas Dai Barcud (£1,500) a Chymdeithas Dai Wales & West (£2,000). Bydd cyhoeddiad yn cael ei wneud ar Facebook y Grwp yn fuan iawn.

Mewn ffordd arloesol, cynhaliwyd cyfarfod Zoom ar nos Iau, 17-12-2020, wedi ei gadeirio gan Charlie Kingsbury (y maer presennol), lle’r oedd y rhai oedd yn bresennol yn pleidleisio am y prosiectau roeddent yn meddwl oedd mwyaf addas i wella diogelwch yn Aberystwyth. Diolchodd Charlie i nifer am eu help yn gweinyddu’r noson gan gynnwys CAVO a Swyddog Cymunedau Cyngor Sir Ceredigion.

Y ceisiadau oedd: –

Prosiect 1 – Clwb Pêl Droed Tref Aberystwyth Cyf

Swm y gofynnir amdano: £3,800

Ehangu’r system TCC (Teledu Cylch Cyfyng) bresennol yng Nghoedlan y Parc. Byddai’n edrych dros y maes 3G £680,000 cyfan, gan gynnwys standiau Dias a Rhun Owens; tŷ clwb y gynghrair iau; siop y clwb; y toiledau ar gyfer dynion, menywod a phobl anabl, ac ystafelloedd cyfarfod/lletygarwch. Byddai hefyd yn edrych dros y mynediad sydd wedi’i ddatblygu gan y fflatiau tai cymdeithasol newydd ar ochr yr orsaf heddlu o’r maes.

Prosiect 2 – Canolfan Cyn-filwyr Penparcau

Swm y gofynnir amdano: £1,000

Yn 2021, mae’r cyn-filwyr lleol yn bwriadu trefnu dau ddigwyddiad cymunedol mawr, gan gynnwys parti yn y parc yng nghanolfan gymunedol Penparcau, a gêm bêl droed elusennol rhwng cyn-filwyr Aberystwyth a’r Cyn-filwyr Brenhinol Cymreig.

Oherwydd pandemig COVID-19, bu’n rhaid gohirio bwriad Canolfan Gymunedol Penparcau i nodi 75 mlynedd ers Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop a Diwrnod Buddugoliaeth yn Siapan. Yn 2021, byddwn yn anrhydeddu’r dewr â phrynhawn hwyliog a fydd yn cynnwys bwyd, diod ac adloniant o 1945. Mae gêm bêl droed elusennol yn cael ei threfnu, a bydd yr arian yn cael ei rhannu rhwng Ken Williams a Her Goffa Stephen Healy er budd Cyn-filwyr Dall y DU.

Prosiect 3 – Cyrraedd yr Uchelfannau, Alison Cocks

Swm y gofynnir amdano: £5,000

Cyflwyno dosbarthiadau perfformiad awyrol gan ddefnyddio sgiliau a chylchoedd awyrol (ioga awyrol) a gwaith polyn (nid dawnsio polyn yn gwmws). Cyflwyno gweithdai hyfforddiant hyblygrwydd, ysgrifennu creadigol a gwneud ffilmiau/actio/cynllunio/gwneud rhaglenni dogfen. Mae’r arian ar gyfer estyn fy nghyfarpar awyrol a phrynu fframiau awyr agored, camera fideo a chaledwedd golygu.

Prosiect 4 – Brownis 1af Penparcau

Swm y gofynnir amdano: £500

Mae’r tâl aelodaeth flynyddol ar gyfer y Brownis yn ddyledus ym mis Chwefror 2021 ac mae’r arian a dderbynnir o’r tanysgrifiadau wythnosol yn cael ei ddiogelu er mwyn talu’r tâl aelodaeth. Oherwydd COVID-19, nid oes cyfarfodydd wythnosol wedi’u cynnal, felly nid oes arian wedi’i gasglu drwy danysgrifiadau a digwyddiadau codi arian. Bydd canlyniad methu â chodi arian yn arwain at gau’r uned heb gymorth ariannol. Bydd y grant hwn yn galluogi’r uned i barhau i roi man diogel i ferched a menywod ifainc fod ynddyn nhw’u hunain a chynnig gweithgareddau cynhwysol a grymusol yn yr ardal leol.

Prosiect 5 – Dosbarth Pili Pala – Canolfan Adnoddau Anghenion Dysgu Lluosog a Dwys yn Ysgol Llwyn yr Eos, Penparcau

Swm y gofynnir amdano: £5,000

Canolfan adnoddau sy’n cefnogi plant 3-11 oed ag anghenion corfforol a meddygol yw Dosbarth Pili Pala. Mae bywydau nifer o’r plant wedi’u cyfyngu. Oherwydd y cynnydd yn ein niferoedd dosbarth, yr ydym wedi canfod ein bod ni’n brin o le ar gyfer yr holl offer arbenigol.

Hoffem ofyn am arian ar gyfer caban pren pwrpasol tu ôl i’n dosbarth er mwyn rhoi gofod ac ardaloedd gwaith ychwanegol i blant hŷn yn yr uned. 

Prosiect 6 – Caiacwyr Aber

Swm y gofynnir amdano: £1,910

Mae caiacwyr Aber eisiau parhau i ddarparu mynediad fforddiadwy, diogel i amrediad eang o weithgareddau chwaraeon padl o fewn cymuned leol Aberystwyth.

Mae holl sesiynau chwaraeon padl caiacwyr Aber yn cael eu cynnal gan dîm o hyfforddwyr ac arweinwyr gwirfoddol cymwys, sydd â gwybodaeth a sgiliau cyfredol. Mae caiacwyr Aber yn bwriadu defnyddio system ar-lein i dalu am aelodaeth, sesiynau a digwyddiadau.

Yr ydym yn gwneud cais am grant er mwyn trwsio a diogelu drws y storfa gychod, cefnogi ein tîm hyfforddwyr presennol a datblygu hyfforddwyr newydd drwy gynnal cyrsiau cymorth cyntaf a chyrsiau diogelwch ac achub dŵr gwyn, a modiwl hyfforddiant padlfwrdd sefyll disgyblaeth benodol. Yn olaf, mabwysiadu ‘Web Collect’ fel ein cyfleuster ar-lein ar gyfer taliadau a chofnodion presenoldeb.  

Prosiect 7 – Nyrs Glinigol Arbenigol Firysau sy’n Cael eu Cludo yn y Gwaed

Swm y gofynnir amdano: £684.06

Cynnal astudiaeth beilot ar gyfer profi ar gyfer hepatitis c, ei ganfod a’i drin gan ddefnyddio offer newydd sy’n cynnig canlyniadau prawf mewn 20 munud. Un o brif ataliadau camddefnyddio sylweddau mewn cleientiaid yw samplu gwaed gwythiennog oherwydd eu mynediad gwythiennog gwael. Ataliad arall yw’r amser y mae’n rhaid iddynt aros am y canlyniadau a/neu nad oes ganddynt fanylion cyswllt neu gyfeiriad sefydlog. Pe baem ni’n medru profi a rhoi’r canlyniadau iddynt mewn 20 munud, byddem yn medru rhoi gwybod iddynt am y diagnosis, annog ymgysylltiad â gwasanaethau camddefnyddio sylweddau wrth iddynt gael triniaeth, a hysbysu eu cyd-ddefnyddwyr cyffuriau.

 

Prosiect 8 – Fforwm Cymunedol Penparcau

Swm y gofynnir amdano: £5000

Arian i gynorthwyo â sefydlu ardal sglefrio fechan ym Mhenparcau gydag offer symudedd ac anabledd ar gyfer pobl ifainc y gellir dod allan ag ef ar sail ad hoc er mwyn cefnogi pobl ifainc Penparcau. Bu cynnydd sylweddol mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ystod y cyfnod cyfyngiadau symud a’r haf, a greodd wahanfa yng nghymuned Penparcau. Gwelwyd plant ifainc 8-14 oed yn ymgasglu mewn gangiau drwy’r dydd ac yn ystod y nos. Ar ôl siarad â nifer o unigolion ifainc, cawsom wybod nad oedd hawl ganddynt grwydro’n rhy bell o adref, ac roedd hynny’n golygu nad oedd hawl ganddynt fynd i’r parcio sglefrio ger tref Aberystwyth.

Ymgynghorwyd â Chlwb Pêl Droed Penparcau, sydd wedi cynnig maes parcio eu clwb fel lleoliad, ynghyd â Chyfiawnder Ieuenctid a Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Dyfed, a fydd yn gwirfoddoli ac yn cefnogi’r cynllun.

Y bwriad yw cynnal y parc sglefrio symudol unwaith yr wythnos o leiaf (gan ddibynnu ar y tywydd a gwirfoddolwyr).

Project 9 – Clwb Syrffio Achub Bywydau Aberystwyth

Swm y gofynnir amdano: £1,000

Arian i gynorthwyo â phrynu offer achub a hyfforddiant newydd, sef 3 bwrdd achub ysgafn newydd, ar gyfer Clwb Syrffio Achub Bywydau Aberystwyth. Mae diben cymunedol i’n camp ni; yr ydym yn hyfforddi pobl i achub bywydau ac yn hyfforddi pobl ifainc ac oedolion mewn gweithgareddau traeth a môr, gan annog aelodau o’r gymuned i fod yn weithredol o ran eu hymwybyddiaeth o’r amgylchedd arfordirol – ei beryglon a’i bosibiliadau. Hyfforddir aelodau mewn sgiliau achub bywyd, technegau adfer, ffitrwydd, gwaith tîm, diogelwch yn yr amgylchedd traeth, a bod yn ymwybodol o effeithiau’r tywydd a’r llawn.

Mae aelodaeth wedi tyfu o 10 i dros 70, gyda rhestr aros o 70 oedolyn a phlentyn arall, a dyna pam y mae angen offer achub ychwanegol. Mae Syrffio Achub Bywydau’n defnyddio offer arbenigol er mwyn ymarfer technegau, ac oherwydd COVID-19, nid yw aelodau’n medru rhannu offer wrth hyfforddi. 

Prosiect 10 – Clwb Chwaraeon Anabl Mighty Ducks

Swm y gofynnir amdano: £2,700

 Arian ar gyfer ail-lansio sesiynau cynhwysol COVID diogel er mwyn i bob plentyn anabl yn yr ardal gael mynediad at sesiwn leol, gefnogol, hwyliog ac egnïol sy’n darparu ar gyfer eu hanghenion a’u galluoedd ar, neu gerllaw, eu carreg drws. Cynnal 2 sesiwn yr wythnos gyda Fforwm Penparcau i alluogi llogi 2 ystafell a fydd yn darparu sesiwn aml-chwaraeon a sesiwn grefft greadigol. Bydd hyn yn cefnogi’n hamcanion, sef cynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o anableddau yn y gymuned.

Cynhelir nifer o wasanaethau o fewn y sir drwy’r Gwasanaethau Cymdeithasol, y Cyngor Sir ac Ysgolion – mae’r rhain yn amrywio ar draws y sir ac yn cynnwys grwpiau cymorth, fforymau, gofal o fewn y cartref ac addasiadau ar gyfer bywyd bob dydd. Serch hynny, mae diffyg darpariaeth gynhwysol benodol ar gyfer plant a phobl ifainc sydd yn gorfforol a/neu’n ddeallusol anabl i gymryd rhan mewn chwaraeon a/neu chwarae egnïol. Mae hyn yn arbennig o amlwg o fewn y grŵp o blant sy’n cael eu haddysgu gartref, ac oherwydd hynny, yr ydym yn dymuno newid yr anghydbwysedd hwn yn ein cymuned a chreu “Aberystwyth Gynhwysol”.

Mighty Ducks

Mighty Ducks

Prosiect 11 – Clwb Chwaraeon a Chymdeithasol Penparcau

Swm y gofynnir amdano: £1,000

Arian i osod system TCC allanol a mewnol yn y pafiliwn ym Min y Ddôl er mwyn edrych dros y stand pêl droed, y maes parcio, yr ardal aml-ddefnydd allanol, yr ardal ffitrwydd allanol a’r maes parcio. Mae’r ardaloedd hyn yn eiddo i Gyngor Tref Aberystwyth a’r Clwb Cymdeithasol a Chwaraeon, ac maent yn denu nifer fawr o bobl ifainc i chwarae pêl droed, pêl fasged ac ati. Yn ddiweddar, mae Brownis Penparcau wedi bod yn defnyddio’r safle ar gyfer eu gweithgareddau, ac mae Canolfan Penparcau’n edrych ar ddefnyddio’r maes parcio fel parc sglefrio dros dro.

Bydd system TCC yn helpu i wneud yr ardal gyfan, sy’n adnabyddus am ymddygiad gwrthgymdeithasol, yn fan diogel i bobl ifainc ac oedolion ddefnyddio.

Hefyd, bydd yn lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol yn yr ardal, a fydd yn elwa’r preswylwyr lleol. Mae’r adeilad yn cael ei ddefnyddio weithiau ar gyfer y Clwb Gateway hefyd, sy’n aml yn defnyddio’r neuadd a’r tir ar gyfer eu gweithgareddau.

Steve Penparcau FC