Coronafeirws: cau Ysgol Penweddig yn Aberystwyth

Yr ysgol yn annog disgyblion i baratoi i weithio ar lein.

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360
Am ddim i BroAber360 / Papurau Bro

Mae Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig, yn Aberystwyth, ar gau heddiw oherwydd y coronafeirws.

Cadarnhaodd yr ysgol wrth golwg360 fod y dewis i gau’r ysgol wedi cael ei wneud er mwyn glanhau’r adeilad heddiw fel mesur diogelwch.

Yn ddiweddarach cadarnhaodd Cyngor Sir Ceredigion fod yr ysgol wedi ei chau oherwydd bod aelod o staff wedi datblygu symptomau coronafeirws.

“Fel mesur rhagofalus, penderfynwyd cau ysgol Penweddig heddiw er mwyn gwneud gwaith glanhau ychwanegol,” meddai Cyngor Sir Ceredgion mewn datganiad.

“Bydd yr ysgol yn ailagor bore fory.”

Annog disgyblion i weithio ar lein

Er bod disgwyl i’r ysgol ailagor fory mae Ysgol Penweddig yn awyddus i ddisgyblion wirio fod y system gweithio ar lein yn gweithio.

Mae’r ysgol eisoes wedi darparu manylion mewngofnodi i ddisgyblion ddefnyddio “Show My Homework” ac yn gobeithio bydd gwersi’r diwrnod ar gael i ddisgyblion ar lein.

Cau clybiau ieuenctid Ceredigion

Cadarnhaodd Cyngor Sir Ceredigion na fydd clybiau ieuenctid Aberteifi, Aberaeron a Phenparcau ar agor wythnos yma.

Er hyn, Ysgol Penweddig yw’r unig ysgol yng Ngheredigion sydd ar gau heddiw.

Dyw Llywodraeth Cymru ddim wedi galw ar ysgolion i gau’n swyddogol eto.

Ysgol Brynhyfryd yn Rhuthun yw’r ysgol gyntaf yng Nghymru i gau ei drysau yn sgil pryderon am y coronafeirws ar ôl adnabod fod 23 o aelodau o staff “yn agored i niwed”, mae’r Ysgol Brynhyfryd eisoes wedi dechrau cynnig adborth ar-lein i ddisgyblion.