Coronafeirws, yr Urdd a llwyddiant yng Nghylch Aberystwyth

Mae’r Urdd yn monitro’r sefyllfa Coronafirwsyn barhaus ac yn gwrando ar gyngor arbenigol ar y mater.

Mererid
gan Mererid

“Mae’r Urdd yn monitro’r sefyllfa yn barhaus ac yn gwrando ar gyngor arbenigol ar y mater. Mae gan ein gwersylloedd gynlluniau gweithredu yn eu lle i ddelio gydag unrhyw sefyllfa allai godi.  Mae’r un peth yn wir am ddigwyddiadau yn enw’r Urdd a byddwn yn cysylltu’n syth gyda’n rhanddeiliaid os oes unrhyw newydd am hyn.”   Dyma ddatganiad a wnaethpwyd gan Urdd Gobaith Cymru heddiw ynglŷn a’r amheuon a fydd Eisteddfod yr Urdd yn cael ei chynnal yn Ninbych diwedd Mai. Nid oes cadarnhad eto a fydd yr Eisteddfod yn cael ei gohirio neu ei ganslo, ac mae Eisteddfodau’r Cylch a’r Sir yn parhau.

Llongyfarchiadau mawr i holl blant Eisteddfod Cylch Aberystwyth a fu’n cymryd rhan heno – perfformiadau arbennig. Roeddech chi gyd yn ardderchog. Diolch i’r rhieni, cefnogwyr a’r gwirfoddolwyr cefn-llwyfan am eu cefnogaeth gyson ac am eu gwaith caled. ???. Dyma luniau amrywiol o’r noson: –