Coronafeirws: Y tair wythnos nesaf yn hanfodol i Geredigion

“Mae’r neges yn parhau: arhoswch adref, achubwch fywydau.”

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi pwysleisio fod y tair wythnos nesaf yn hanfodol i’r sir wrth iddynt geisio mynd i’r afael ag ymlediad y coronafeirws.

Yn unol â’r canllawiau a gyhoeddwyd gan Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford mae hawl gan bobol i wneud ymarfer corff fwy nag unwaith y dydd, ond mae’n rhaid gwneud hyn yn lleol heb unrhyw deithio diangen.

Er bod canllawiau newydd Llywodraeth Cymru yn caniatáu i Lyfrgelloedd a Safleoedd Gwastraff Cartref ailagor mi fydd y cyfleusterau hyn yn parhau i fod ar gau yng Ngheredigion.

“Ar ein mwyaf bregus”

Mewn datganiad dywedodd Cyngor Sir Ceredigion: “Ar hyn o bryd, rydym ar ein mwyaf bregus ac mae’r tair wythnos nesaf yn hanfodol i Geredigion.”

“Hyd yn hyn, mae trigolion Ceredigion wedi gwneud gwaith gwych wrth sicrhau bod nifer yr achosion o’r coronafeirws yng Ngheredigion yn isel drwy aros adref a dilyn y canllawiau.”

“Mae’n hanfodol nad yw pobl yn teithio dros y ffin i Gymru i wneud ymarfer corff, a bydd dirwyon yn parhau i gael eu rhoi am unrhyw deithio nad yw’n hanfodol.”

Diogelu’r boblogaeth hŷn

Mae gan Geredigion ganran uchel o boblogaeth hŷn ac mae’r cyngor sir wedi galw ar bobol i barhau i weithio gyda’i gilydd i’w diogelu.

Ychwanegodd y Cyngor Sir, “Mae’r niferoedd isel o achosion yn ganlyniad i’r ymdrechion enfawr a wnaed gan drigolion Ceredigion.

“Fodd bynnag, oherwydd y niferoedd isel hyn mae’n ein gwneud ni’n agored i niwed.

“Diolch am aros adref ac am beidio â gadael eich cartref oni bai ei fod yn hanfodol. Bydd hyn yn sicrhau na fydd yr holl waith da yn cael ei ddadwneud.

“Felly, mae’r neges yn parhau: arhoswch adref, achubwch fywydau.”