Coronafeirws: System olrhain cyswllt Ceredigion yn arwain y ffordd

Mae disgwyl i Lywodraeth Cymru gymeradwyo ap sydd yn olrhain cyswllt yng Nghymru.

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mae system olrhain cyswllt ar gyfer y coronafeirws a ddatblygwyd gan Gyngor Sir Ceredigion bellach yn cael ei ddefnyddio gan gynghorau Sir Ynys Môn, Sir Benfro a Sir Gâr.

Mae’r system ar-lein yn casglu gwybodaeth am ganlyniadau positif o’r coronafeirws o fewn siroedd gan alluogi i dîm diogelu’r cyhoedd gysylltu â’r unigolyn sydd wedi profi’n bositif er mwyn casglu gwybodaeth am bobol y gallant fod wedi trosglwyddo’r feirws iddynt.

Bydd tîm diogelu’r cyhoedd yna’n defnyddio’r wybodaeth yma i gysylltu gyda’r bobol a allai fod wedi eu heintio er mwyn sicrhau eu bod nhw’n dilyn canllawiau hunanynysu i ddiogelu eu hunain a pheidio lledu’r feirws ymhellach.

Dywedodd Ellen ap Gwynn, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion: “Dyma’r unig ffordd rydyn ni’n mynd i gadw’r niferoedd sydd yn dioddef o’r clefyd i lawr.”

“Mae’n enghraifft o arbenigedd sydd wedi ei ddatblygu ar lawr gwlad, a sy’n cael ei brofi yn yr ardal bellach.

“Pan fydd y cyfyngiadau yn cael eu codi yn araf bach bydd rhaid cael mwy o brofion yn y gymuned a system i ganfod y bobol sydd yn bositif.

“Mae rhai pobol yn gorfod gweithio felly mae’n anorfod bydd pobol yn dod mewn cyswllt â phobol eraill.”

“Mae’r system yma yn ein galluogi ni i weld pwy sydd wedi bod mewn cysylltiad â nhw.”

Ceredigion yw’r sir sydd wedi gweld y nifer lleiaf o achosion o’r firws yng Nghymru gyda 37 o achosion.

Ap olrhain cyswllt Cymru

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ceredigion mai system fewnol ddiogel yw’r system olrhain cyswllt sy’n cael ei ddefnyddio gan y sir.

Cadarnhaodd hefyd fod y cyngor yn ymwybodol fod prifysgolion yn Llundain yn datblygu meddalwedd ar hyn o bryd ar gyfer ap olrhain ymlediad pellach y coronafeirws.

Ychwanegodd y llefarydd byddai’r cyngor yn hyrwyddo ap olrhain symudiadau pan fydd yn cael ei gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru.

Lansiwyd ap NHS 24 gan y Gwasanaeth Iechyd yn yr Alban wythnos yma er mwyn gwirio symptomau a darparu’r wybodaeth ddiweddaraf i bobol ynglyn â coronafeirws.