Coronavirus: darlithwyr Prifysgol Aberystwyth yn paratoi i weithio o adref

Gofyn i ddarlithwyr baratoi oherwydd amhariadau posib

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mae golwg360 wedi gweld e-bost gan Brifysgol Aberystwyth sydd yn argymell y dylai aelodau staff baratoi ar gyfer gweithio o adref oherwydd amhariadau posib oherwydd coronavirus.

Mae’r e-bost, a gafodd ei gyrru i staff y brifysgol yr wythnos yma, yn nodi y dylai pob aelod o staff fedru defnyddio rhwydwaith y Brifysgol a’r systemau cysylltiedig pe bai angen gweithio o bell neu o adref.

Mae gofyn iddyn nhw brofi eu bod nhw’n medru defnyddio’r cyswllt cartref a rhwydwaith y Brifysgol mewn da bryd, er mwyn sicrhau bod modd datrys unrhyw broblemau cyn y bydd gofyn iddyn nhw weithio o adref.

Er bod nifer o ddarlithwyr eisoes yn defnyddio’r cyswllt cartref ar gyfer marcio traethodau a derbyn e-byst, mae aelod o staff yn dweud wrth Golwg360 fod y sefyllfa’n dal yn aneglur, ac nad yw hi’n glir a fydd disgwyl i ddarlithwyr ac aelodau o staff gynnal darlithoedd a seminarau o gartref.

Does dim achosion o’r firws yn Aberystwyth, ond mae disgwyl iddo fod ar ei anterth erbyn mis Mai, pan fydd arholiadau semester 2 y brifysgol yn cael eu cynnal.

Mae’r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething yn disgwyl bydd mwy o achosion o’r feirws yng Nghymru dros y dyddiau nesaf.

Hyd yn hyn mae 6 achos wedi ei gadarnhau yng Nghymru.

Mae Golwg360 wedi gofyn i Brifysgol Aberystwyth ac Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth am ymateb.