Sul y Cofio – Dei Jones, Morwr Talybont

Gwyn Jenkins a groniclodd fywyd Dei Jones y morwr a gollwyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf

gan Gwyn Jenkins

Cofeb Talybont

Rydym yn anghofio y bu cymaint o golledion bywyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf o ganlyniad i longau tanfor yr Almaenwyr – yr U-boat. Byddai fflyd ohonyn nhw’n llechu yn y moroedd o gwmpas Prydain, gan gynnwys Bae Ceredigion. Suddwyd rhai llongau mawr fel y Lusitania ond eu prif darged oedd llongau masnach.

Gan nad oedd Prydain yn cynhyrchu digon o fwyd i gynnal ei phoblogaeth, roedd rhaid mewnforio  grawn a bwydydd o’r Unol Daleithiau a gwledydd eraill. Roedd yr Almaenwyr yn benderfynol o amharu ar hyn a suddwyd cyfanswm 4,786 o longau masnach Prydain yn ystod y rhyfel. Roedd rhai llongau masnach hefyd yn cludo nwyddau a mwynau, a mwyn haearn o Algeria oedd ar fwrdd yr SS Argyll pan suddwyd hi yn Ebrill 1917.

Dei Jones

Ymhlith y morwyr a foddwyd oedd peiriannydd y llong, David (‘Dei’) Jones, aelod o deulu morwrol a ddaeth i fyw i Dal-y-bont, yn 1914. Roedd ei dad, Richard D Jones,  yn gapten llong a bu ef a’i wraig, Mary, yn byw yn Stryd y Bont ac ar y Buarth, Aberystwyth, cyn symud i Dal-y-bont. Yn ystod y rhyfel, ymunodd brawd Dei, Emrys, â Chwmni’r Signalwyr Cymreig, y Peirianwyr Brenhinol, ond dilynodd Dei draddodiad morwrol y teulu.

Ganed Dei yn Aberystwyth yn 1889, gan fynychu Ysgol y Sir yno ac Ysgol Ganolradd Tywyn. Yn 17 oed, ymunodd yn brentis â chwmni peirianyddol T. Williams a’i fab, Aberystwyth, lle y dysgodd am dyrbinau ag offer peirianyddol. Wedi tair blynedd gyda’r cwmni hwnnw, daeth yn beiriannydd ar longau masnach, gan hwylio i’r Unol Daleithiau, Siapan ac Awstralia. Treuliodd Dei gyfnod o seibiant yn Nhal-y-bont ddechrau 1917 ac adroddwyd mewn papur lleol ei fod, wrth adael am y môr unwaith eto, yn arddangos ‘…the true characteristics and patriotism of a British seaman.’

Ar 13 Ebrill 1917, roedd llong Dei, yr SS Argyll, yn y môr i’r gorllewin o Ynysoedd Syllan (Scilly) ar ei thaith i Middlesborough, pan ymosodwyd arni gan long danfor. Mae gwefan hynod fanwl ar gael sy’n nodi holl achosion o ymosodiadau gan longau tanfor yr Almaen yn ystod y Rhyfel Mawr (www.uboat.net). Ceir ynddi gyfeiriad at y llong danfor U84, dan arweiniad ei chapten, Kapitänleutnant Walter Roehr, yn suddo’r SS Argyll.

O’r criw o 34, achubwyd 11 ohonynt, ond boddwyd David Jones. Rhwng 1916 ac 1918 suddodd yr U84 gyfanswm o 31 o longau a difrodwyd saith, ond ganol Ionawr 1918 fe’i suddwyd hithau yn y môr ger Penmarch, Llydaw.

Ddiwedd Ebrill 1917, cynhaliwyd gwasanaeth coffa i  David Jones yng nghapel Bethel, Tal-y-bont. Cofnodir ei enw ar gofeb Tower Hill, Llundain, lle y rhestrir oddeutu 12,000 o forwyr llongau masnach lle nad oes bedd iddynt ond y môr.  Mae ei enw hefyd ar y gofeb i’r meirw yn Neuadd Goffa Tal-y-bont, ac mae enw ei frawd, Emrys, a oroesodd y rhyfel, ar y gofeb i’r rhai a fu’n gwasanaethu yn ystod y rhyfel.

Cofeb Talybont

Llwyddodd Brian Walkingshaw o Aberystwyth i brynu medalau David Jones oddi wrth arwerthwr felly dychwelodd y medalau i’r ardal.

Mae mwy o fanylion o golledion yr ardal ar y wefan hon.

Gwyn Jenkins

(cyhoeddwyd yr erthygl hon yn wreiddiol yn Papur Pawb, Mai 2017)