Cofio’r Holocost – arddangosfa yn y Morlan, Aberystwyth

Dilyn ôl troed Leib Nessbaum o Antwerp i Auschwitz drwy gyfrwng paentiadau a ffotograffau

Marian Beech Hughes
gan Marian Beech Hughes

Mitch Rose, Jackie Bat-Isha a Mari Turner (Maer Aberystwyth)

Ar 30 Ionawr, yng Nghanolfan y Morlan, Aberystwyth, cynhaliwyd digwyddiad oedd yn agor arddangosfa i nodi ac i gofio bod 75 mlynedd bellach ers rhyddhau dioddefwyr Auschwitz o’r gwersyll ffiaidd hwnnw. Cyflwynwyd y noson gan Dr Mitch Rose a ddywedodd na allwn amgyffred difodiant 6,000,000 o bobl gyda’r fath greulondeb yn ystod yr Holocost. Byddai’r ymdrech yn ein difa, meddai.

Ond roedd adrodd hanes yr un, yr unigolyn a gollwyd, yn daearu erchylltra’r dioddefaint. Mae’r arddangosfa sy’n cynnwys paentiadau a ffotograffau yn olrhain hanes un person, Leib Nessbaum, o Antwerp i Auschwitz, i’w gweld yng Nghanolfan y Morlan hyd 27 Chwefror. Cyflwynwyd hanes Leib Nessbaum gan ei wyres Jackie Bat-isha, sydd bellach wedi cartrefu yng Ngheredigion. Er bod yr achlysur yn anorfod yn llawn o ddwyster adroddwyd ei hanes gyda sensitifrwydd a chafwyd neges obeithiol a chadarnhaol ynghyd â her i ninnau fod ar ein gwyliadwriaeth yn erbyn tueddiadau Ffasgaidd yn Ewrop heddiw.    .

Cofiwch fanteisio ar y cyfle i ymweld â’r arddangosfa.

R. Watcyn James