Cofio Chernobyl – 34 mlynedd yn ôl

Cofio tanchwa Chernobyl 34 mlynedd yn ddiweddarach

Mererid
gan Mererid

Drideg a phedair o flynyddoedd yn ôl (26-4-1986), digwyddodd ffrwydrad niwclear trychinebus yn un o adweithyddion gorsaf niwclear Chernobyl yn Wcráin. Gollyngwyd cwlwm enfawr o wenwyn ymbelydrol o grombil yr adweithydd a gafodd effaith niweidiol iawn ar lawer o filoedd o bobl yn Wcráin, Belarws a Rwsia. Sefydlwyd ardal waharddedig fawr o 60,000 milltir sgwâr a gadawodd dros 400,000 o bobl eu cartrefi. Nid yw gwenwyn ymbelydrol yn parchu ffiniau gwledydd,  a gwelsom ni yng ngogledd Ceredigion effaith gan y glaw o gymylau Chernobyl a syrthiodd ychydig ddyddiau ar ôl y drychineb yn arbennig ar y tir uwch. Arweiniodd hynny at waharddiadau symud da byw ffermydd ar uwchdiroedd y gogledd a fu mewn grym am dros ugain mlynedd.

O 1997 tan 2004, yr oedd criw ieuenctid o Felarus oedd  yn dioddef o ganser yn dod i aros i Aberystwyth bob haf. Daeth hyn i ben yn 2004 oherwydd diffyg gwirfoddolwyr, ond mae’r elusen Plant Chernobyl yn parhau. Ymysg y rhai gweithgar ar y pryd, roedd Olwen Davies, Penparcau, yr ymgyrchydd heddwch.

Yn ystod yr wythnosau diwethaf, daeth adroddiadau fod tanau gwyllt mewn coedwigoedd yn agos at orsaf Chernobyl wedi rhyddhau cymylau mwg mawr oedd yn cynnwys ymbelydredd. Arweiniodd hyn at yr awdurdodau yn rhybuddio trigolion dinas Kiev i beidio ag agor ffenestri eu cartrefi rhag i’r gwenwyn ymbelydrol a ryddhawyd o’r coedwigoedd oedd ar dân eu niweidio. Fel mae’n digwydd, roedd cyfran helaeth o boblogaeth Kiev yn hunanynysu beth bynnag oherwydd Covid 19. Fodd bynnag, heb yr argyfwng hwnnw, byddai mesurau llym wedi cael eu gosod ar lawer iawn o bobl Wcráin oherwydd y tanau coedwig hyn.

Mae’r grŵp ymgyrchu PAWB yn galw ar lywodraeth San Steffan i roi eu hobsesiwn niwclear o’r neilltu a chyfeirio polisi ynni tuag at gefnogi ynni adnewyddadwy yn ei holl amrywiaeth, a chanolbwyntio cyllid ac adnoddau sy’n cael ei gyfeirio at ynni ac arfau niwclear i gyfeiriadau trechu Covid 19 ac ailadeiladu cymdeithas ac economi ar seiliau dyngarol a chyfiawn.

Dywed cynrychiolydd ar ran PAWB “Mae’r fath ddiffyg chwaeth a synnwyr cyffredin yn syfrdanol a ninnau yng nghanol yr argyfwng dynol mwyaf y mae’r rhan fwyaf ohonom wedi ei weld erioed. Gwastraffwyd £4 biliwn yn arbrofi gyda’r dechnoleg hon yn Dounreay, Caitness yn yr Alban dros bedair degawd. Daeth y gwaith hwnnw i ben yn 1994 ar ôl cyfres o ddamweiniau a gollyngiadau ymbelydrol ar y safle. Mae’r arbenigwr gwyddonol ar y diwydiant niwclear rhyngwladol Walt Patterson yn dadlau “nad yw’r adweithyddion ‘cyflym’ hyn wedi gweithio erioed ers y 50au. Hyd yn oed pe byddent yn gweithio, byddai’n cymryd canrifoedd i losgi 140 tunnell o stoc plwtoniwm y Wladwriaeth Brydeinig a hwnnw yn ei dro yn creu rhagor o wastraff heb unman i’w roi”. “