Gyda Sul y Cofio yn agosáu, bydd BroAber360 yn cofnodi colledion gwahanol ardaloedd. Richard Huws sydd yn cofio’r dynion a gollwyd o ardal Bont-Goch.
Y cyntaf i farw oedd William Henry Edwards (Private 13224), Lerry View, Bont-goch ar 27 Mai 1915, yn 34 mlwydd oed. Roedd yn aelod o ail fataliwn Catrawd Dyfnaint (Devonshire Regiment). Fe’i claddwyd ym mynwent Sailly-sur-la-Lys Canadian.
Lladdwyd Dewi Mason (Private 23354), mab fferm Y Winllan, o 16eg Bataliwn y Ffiwsilwyr Cymreig, ym mrwydr enwog Coedwig Mametz ar 11 Gorffennaf 1916, yn 25 oed. Enwir Dewi Mason ar gofeb mynwent Thiepval, sy’n cofnodi 72,000 o filwyr na fu modd adnabod eu cyrff.
Y trydydd i farw oedd Arthur Morris (Private 18043), Elerch House, Bont-goch a fu’n gwasanaethu gyda Bataliwn 14 y Ffiwsilwyr Cymreig.
Aeth Arthur, a dau o’i frodyr, a’u tad William Edwin Morris i weithio yn y maes glo yn ne Cymru, gan adael eu mam adref yn y pentref. Roedd hynny yn batrwm eithaf arferol. Cawsant waith ym mhwll glo yr Universal yn Senghennydd.
Ac yno, ar 14 Hydref 1913, cafwyd un o’r damweiniau gwaethaf a welodd y byd erioed pan laddwyd 439 o lowyr mewn tanchwa. Yn eu plith, roedd dau o feibion William Edwin Morris, sef William Edwin a Thomas (Tom) James – y naill yn 23 oed a’r llall yn 19 oed. Ar y diwrnod tyngedfennol hwnnw, roedd dros 950 o lowyr yn y pwll, ac mae’n bosibl fod William Edwin, y tad, a’i fab Arthur ymhlith y rhai ffodus a ddihangodd yn fyw. Claddwyd y ddau frawd ym mynwent Penyrheol, Caerffili.
Ymhen llai na blwyddyn,dechreuodd y Rhyfel Mawr, ac enlistiodd Arthur Morris ar gyfer gwasanaeth milwrol. Bu yntau farw ar faes y gad ar 26 Awst 1918, gan adael ei rieni yn Elerch House, Bont-goch i alaru ar ôl colli tri mab o fewn cyfnod o lai na phum mlynedd.
Claddwyd Arthur ym mynwent Caterpillar Valley, Longueval, yn ardal y Somme, gogledd Ffrainc. Yn ddiweddar, ymwelodd ei nai Arthur J. Morris, o Gaergrawnt, a enwyd ar ôl ei ewythr, â’i fedd. Mae Arthur yn ymweld â Bont-goch yn rheolaidd, a bu’n bresennol yng ngwasanaeth Sul y Cofio yn Nhal-y-bont yn 2018. Roedd wedi bwriadau dod eto eleni, ond ni fydd hynny bellach yn bosibl oherwydd y cyfyngiadau presennol.
Gallwch ddarllen mwy o’r hanes yn llyfr Richard Huws, Pobol y Topie, sydd ar gael yn eich siop lyfrau leol neu ar Gwales.