Esgyn i’r awyr i godi arian at ein Bwrdd Iechyd

Fy ffordd fach i o ddweud diolch hiwj i’r GIG sy’n ein cadw ni yn saff.

Gareth Whalley
gan Gareth Whalley

Dros gyfnod y pandemig hwn, rwyf wedi bod yn ceisio meddwl am ffordd o godi arian i’r rhai sydd wedi bod yn cadw ni’n ddiogel rhag y feirws COVID-19.

Yn fy noethineb, penderfynais wneud rhywbeth ychydig yn eithafol, a dydd Sadwrn yma byddaf yn neidio allan o awyren ar uchder o 12,000 troedfedd i godi arian at Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda … hwyl a sbri!

Ddoe, mi wnes i daro targed ariannol o £375 a dw llai na wythnos i ffwrdd o’r naid. Byddwn yn hynod ddiolchgar am unrhyw fath o gyfraniad at ein hymddiriedolaeth iechyd leol ryfeddol!

Dyma’r ddolen i gyfrannu: https://www.gofundme.com/f/hydro-dda-health-charities?utm_medium=copy_link&utm_source=customer&utm_campaign=p_na+share-sheet&rcid=e6e487cb3202418da02b14b58ae629ee

Diolch yn fawr am unrhyw gyfraniad, a chofiwch godi llaw os welwch chi fi’n hedfan fyny fry.