Clwb Pêl-droed Aberystwyth yn penodi Meirion Appleton fel Llywydd

Rheolwr mwyaf llwyddiannus Aberystwyth erioed yn dychwelyd fel Llywydd

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mae Clwb Pêl-droed Aberystwyth wedi penodi eu rheolwr mwyaf llwyddiannus erioed, Meirion Appleton, fel Llywydd.

Ar ôl chwarae i’w bentref genedigol B,ont yn ogystal ag Aberystwyth, trodd Meirion Appleton at hyfforddi ar ôl ymddeol.

Daeth yn rheolwr Aberystwyth yn 1982, gan dreulio dau gyfnod yno dros 17 mlynedd.

Ef oedd wrth y llyw yn ystod cyfnod mwyaf llwyddiannus y tîm yng nghanol yr 1980au, gan ennill dwy Gwpan Canolradd Cymru, dwy Bencampwriaeth Cynghrair Canolbarth Cymru yn ogystal â Chwpan Canolbarth Cymru, Cwpan y Gynghrair a Chwpan yr Haf.

Aeth ymlaen i reoli’r tîm yn Uwch Gynghrair Cymru yn ogystal ag ennill Cwpan Cymru gyda Bangor yn 2000.

meirion-appleton
Meirion Appleton gyda Chwpan Canolradd Cymru yn 1986

Yn 2019, derbyniodd Meirion Appleton Wobr Cyflawniad Oes am ei wasanaeth i bêl-droed gan Ymddiriedolaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru.

“Mae record Meirion gydag Aberystwyth yn siarad drosto’i hun,” meddai Cadeirydd y Clwb Donald Kane.

“Gyda llygaid da am dalent, roedd ei dimau ymosodol yn bleser i’w gwylio wrth iddo ennill sawl pencampwriaeth a chwpanau yng Nghoedlen y Parc, hen anghofio ei fuddugoliaeth yng Nghwpan Cymru gyda Bangor.

“Mae hyn, ynghyd â’i gysylltiad â Chymdeithas Bêl-droed Cymru, yn golygu ein bod yn lwcus iawn i gael dyn sydd â chymaint o wybodaeth a brwdfrydedd tuag at y gêm a’r clwb.

“Rydym wrth ein boddai ei fod wedi derbyn ein cynnig i gymryd y rôl hon.”

Dywedodd Meirion Appleton: “Dw i’n falch iawn o allu gwasanaethu Aberystwyth fel Llywydd y Clwb, mae’n sicr yn anrhydedd y byddai’n ei drysori.

“Diolch i bawb am yr anrhydedd.”