Claf wedi marw o’r corona mewn cartref gofal yn Aberystwyth

Cyngor Ceredigion yn gofyn i bobol gadw draw

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mae un o breswylwyr cartref gofal yn Aberystwyth wedi marw.

Mae cartref gofal Hafan y Waun yn gofalu am 90 o bobol hŷn, gyda llawer ohonyn nhw yn derbyn gofal dementia arbenigol.

Fe gafodd sawl achos o’r coronafeirws eu cadarnhau yno’r wythnos hon.

Ac mae’r Cynghorydd lleol, John Roberts, wedi dweud ei fod yn poeni am y sefyllfa.

Cafodd y newyddion am farwolaeth un o’r preswylwyr ei gadarnhau gan berchennog y cartref gofal, Methodist Homes – dyma un o’r prif gwmnïau elusennol sy’n darparu gofal i bobl hŷn ym Mhrydain.

“Ynysu preswylwyr” y cartref

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Methodist Homes: “Yn anffodus, rydym wedi colli preswylwyr i’r feirws ac rydym yn estyn ein cydymdeimlad i’w teulu a’u ffrindiau.”

Ychwanegodd bod y cwmni yn gweithio’n agos gyda gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol lleol i ofalu am y preswylwyr a chefnogi staff y cartref.

“Cyn gynted ag y bydd aelod o staff yn profi’n bositif, maen nhw yn cael eu hanfon adref ar unwaith i hunanynysu,” meddai’r llefarydd.

“Lle gallwn, rydym yn ynysu preswylwyr yn eu hystafell ac yn parhau i ddarparu gofal tosturiol o ansawdd iddyn nhw.”

Mae’r cwmni mewn cyswllt rheolaidd  gyda Chyngor Ceredigion a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel dda, yn ôl eu datganiad.

Cynghorydd lleol yn pryderu

Mae’r Cynghorydd lleol, John Roberts, yn poeni am y sefyllfa yn y cartref.

Dywedodd ei fod yn credu bod claf o Hafan y Waun wedi dal y feirws yn yr ysbyty, cyn dychwelyd yn ôl i’r cartref gofal.

Gofyn i bobol gadw draw

Mae Cyngor Ceredigion wedi annog y cyhoedd i gadw draw.

“Mae staff a phreswylwyr Cartref Gofal MHA Hafan y Waun yn ddiolchgar am y caredigrwydd a ddangoswyd iddynt yn ystod y cyfnod anodd hwn,” meddai llefarydd y cyngor.

“Fodd bynnag, gofynnir i bobl sy’n dymuno cynnig anrhegion a pharseli i beidio â mynd â nhw i’r Cartref Gofal eu hunain.”

Mae trefniadau’n cael eu gwneud i alluogi pobl i’w gadael yng Nghanolfan Gymunedol Waunfawr, ar ddydd Llun, dydd Mercher a dydd Gwener rhwng 10am a 12pm, a hynny o ddydd Gwener 13 Tachwedd 2020 ymlaen.