Chwilio am samariad trugarog o Aberystwyth

Mae Heddlu Dyfed Powys yn awyddus i siarad gyda samariad trugarog yn dilyn ymosodiad yn y dref.

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mae’r Heddlu yn Aberystwyth yn awyddus i siarad gyda samariad trugarog a gludodd dioddefwr mewn fan o leoliad ymosodiad ar Heol y Bont i ardal Trefechan dros y penwythnos.

Digwyddodd yr ymosodiad ger Pont Trefechan, toc wedi 2 y bore ddydd Sul (Mawrth 22).

Mae Heddlu Dyfed Powys hefyd yn apelio am dystion, neu unrhyw un sydd â lluniau camerâu cylch cyfyng yn yr ardal, i gysylltu â’r tîm ymchwilio.

Gofynnir i unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth ynglŷn â’r digwyddiad i e-bostio contactcentre@dyfed-powys.pnn.police.uk, neu ffonio 101.