Nos Lun y 1af o Fehefin oedd cyfarfod cyntaf Cyngor Tref Aberystwyth gyda’r Cynghorydd Charlie Kingsbury wrth y llyw.
Fel arfer, mae urddo’r Maer yn uchafbwynt calendr Cyngor Tref Aberystwyth, gyda’r seremoni a derbyniad ar nos Wener, a phared y Maer ar y dydd Sul, gydag Oedfa’r Maer yn dilyn.
Tipyn o newid trefn felly oherwydd COVID-19 oedd urddo’r Maer dros linc fideo, a hynny yn eithaf diseremoni.
Ganwyd Charlie Kingsbury ym Modelwyddan, Sir Conwy, ond symudodd i Aberystwyth yn ddwyflwydd oed. Ym Mai 2017, etholwyd ef fel Cynghorydd Tref ward Penparcau dros y Democratiaid Rhyddfrydol. Wedi cyfnod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru, aeth yn ôl i astudio dros y flwyddyn ddiwethaf, ac mae wedi bod yn llwyddiannus yn cael cytundeb fel athro yn Ysgol Penglais o fis Medi. Llongyfarchiadau eto!
Mae’n briod gyda Flossie, ac mae’r ddau yn byw yn Aberystwyth. Bydd llawer ohonoch yn ymwybodol am ba mor weithgar yw Charlie gyda’r sgowtiaid, ond bydd y flwyddyn nesaf y cyfle i ddod i wybod mwy am Faer y dref.
Pob lwc i Charlie a Flossie ar flwyddyn weithgar gan obeithio y cawn nifer o storïau diddorol gan y Maer a’r Faeres.
Hoffem ddiolch i Mari Turner am ei blwyddyn fel Maer, ac am ei chefnogaeth bob amser i BroAber360.