A ydych chi wedi clywed sôn am yr Ysgolhaig Syr John Rhys? Naddo?
Wel dewch i ddysgu ychydig bach am ei hanes fel mae disgyblion Ysgol Syr John Rhys yn ei wneud ar hyn o bryd.
Wrth ddysgu am Syr John Rhys mae’r disgyblion wedi darganfod ei fod wedi cerdded o’i gartref Aberceiro Fach ar gyrion pentref Ponterwyd yr holl ffordd i’r Coleg Normal ym Mangor ag yn ôl. Cerddodd yno er mwyn eistedd arholiad i gael ei dderbyn ar gwrs ysgolfeistr.
Bu’r disgyblion yn awyddus i ddilyn ôl troed Syr John Rhys. Felly maent wedi penderfynu gosod her i gymuned yr ysgol wrth gynnal taith gerdded noddedig rhithiol. Byddwn yn cerdded o Bonterwyd i’r Coleg Normal ym Mangor ag yn ôl yn union fel gwnaeth Syr John Rhys i eistedd yr arholiad. Pellter y daith fydd 164 o filltiroedd.
Ganwyd Syr John Rhys yn Aberceiro Fach ar y 21ain o Fehefin 1840 a derbyniodd addysg yn y pentref cyn mynd ymlaen i’r Coleg Normal ym Mangor. Yn 1865 fe ddaeth yn bennaeth yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen sydd bellach 125 mlynedd yn ôl.
Rydym wedi dechrau ar y daith gerdded ac rydym bron a chyrraedd Bangor yn barod heb fod hanner ffordd drwy’r her eto. I ddechrau’r her fe gerddodd disgyblion Cyfnod Allweddol 2 o’r ysgol i Aberceiro Fach sef cartref enedigol Syr John Rhys ag yn ôl. Bu plant y Cyfnod Sylfaen yn cerdded o gwmpas iard yr ysgol i gofnodi eu milltir cyntaf. Braf yw gweld nifer o’r disgyblion wedi bod allan yn cerdded gyda’u teuluoedd yn ystod yr wythnos diwethaf. Diolch hefyd i aelodau’r gymuned sydd wedi bod allan yn cerdded a chofnodi eu milltiroedd tuag at yr her.
Os hoffech noddi’r disgyblion yn ystod yr her fe werthfawrogwn bob cyfraniad tuag at yr ysgol trwy linc ‘JustGiving’.
https://www.justgiving.com/crowdfunding/angharad-davies