gan
Mererid
![Plaid Cymru Penparcau](https://360.scdn8.secure.raxcdn.com/ased/sites/6/2020/12/IMG_20201206_140031-640x396.jpg?110)
Ar ddydd Sul, 6ed o Ragfyr, aeth 10 o wirfoddolwyr o amgylch Penparcau yn casglu gwastraff ar y strydoedd. Trefnwyd y sesiwn gan gangen Glannau Ystwyth o Blaid Cymru, yn dilyn sesiwn lwyddiannus yn ward Bronglais dair wythnos yn ôl (gweler llun): –
Aeth un criw o amgylch Tollborth y De, un criw o amgylch Heol Tynyfron, Gwel Afon a Heol Dinas, a’r criw arall o amgylch Min y ddol a’r Coedlannau.
O fewn yr awr, casglwyd 10 bag llawn, ond mae tipyn o stadau ym Mhenparcau lle nad oedd modd cyflawni. Ydych chi am ymuno a ni tro nesaf?