Canolfan y Celfyddydau yn rhybuddio pobol i adael digon o amser i gyrraedd

Gwaith ffordd ar yr A487 – Stryd y Dollborth a Rhiw Penglais

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mae Canolfan y Celfyddydau wedi rhybuddio pobol i adael digon o amser i gyrraedd y ganolfan gyda’r nos er mwyn osgoi unrhyw oedi o ganlyniad i waith ffordd ar yr A487.

Dros yr wythnos nesaf bydd yr A487 ar Stryd y Dollborth a Rhiw Penglais, Aberystwyth ar gau gyda’r nos rhwng 7yh a 6yb.

Am y bythefnos ganlynol bydd goleuadau traffig a system confoi yn cael ei ddefnyddio i reoli traffig.

Os ydych chi’n teithio o’r dref neu o dde’r sir i’r ganolfan, bydd rhaid i chi ddilyn dargyfeiriadau o gwmpas Gelli Angharad.

Ni fydd y gwaith ffordd yn eich effeithio os ydych yn teithio o ogledd y sir (tuag at y dref).

 

Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Canolfan y Celfyddydau.