Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn cyhoeddi enillydd Gwobr Ian McKellen 2020

Sefydlwyd y wobr gyda’r arian a dderbyniwyd yn ystod ymweliad Syr Ian McKellen â’r Ganolfan yn 2019

Mae enw enillydd Gwobr Ian McKellen 2020 Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth wedi’i gyhoeddi, yn dilyn cyfweliadau a gynhaliwyd yn ddiweddar. Enillydd 2020 yw’r gerddores Cerys Havana Hickman, a fydd yn dechrau ei hastudiaethau ar gyfer gradd mewn Cerddoriaeth (BMus) yn Goldsmiths, Prifysgol Llundain, yn ddiweddarach eleni. Cyflwynir £500 iddi tuag at gost ei hastudiaethau fel rhan o’r wobr arbennig hon a sefydlwyd gyda’r arian a dderbyniwyd yn ystod ymweliad Syr Ian McKellen â’r Ganolfan yn 2019.

Dywedodd Cerys, “Gyda help Gwobr Ian Mckellen rwyf wedi prynu allweddell / piano llwyfan i fynd i’r brifysgol gyda fi. Bydd hyn yn ei gwneud hi’n bosib i mi barhau i greu a pherfformio, ac yn ehangu’r hyn dwi’n gallu ei wneud yn greadigol. Ar wahân i’r cymorth ariannol, mae derbyn y wobr wedi rhoi mwy o hyder i mi ddilyn fy llwybr(au) artistig. Mae hi wastad yn dda teimlo fod gen ti gefnogaeth, yn enwedig mewn maes sy’n gallu teimlo braidd yn unig, ac rwyf yn ddiolchgar iawn o dderbyn y wobr.”

Mae Cerys yn offerynwraig dalentog sy’n arbenigo ar y delyn deires a’r piano, ac mae hi hefyd yn chwarae’r delyn Geltaidd, y clarinet a’r ffidil. Ar y delyn deires mae wedi perfformio ledled Cymru a thu hwnt, gan gynnwys Ynysoedd Aran ac yn yr Ŵyl Ryng-Geltaidd yn Lorient.

Mae’n perfformio fel artist unigol (dan yr enw Cerys Hafana), ac mae hi newydd ryddhau ei CD gyntaf, Cwmwl. Mae hi hefyd yn aelod o Avanc: Ensemble Gwerin Ieuenctid Cymru. Chwaraeir traciau o’i halbwm yn rheolaidd ar Radio Cymru ac yn ystod y cyfnod clo fe’i comisiynwyd i greu tri ‘sesiwn cartref’ ar gyfer y BBC. Darlledwyd un ohonynt ar Gerddoriaeth Radio 6 gan Cerys Matthews ym mis Awst. Mae hi hefyd wedi recordio cyngerdd rhithiol unigol ar gyfer Tŷ Gwerin yr Eisteddfod Genedlaethol, a ffilm ar gyfer Noson Lawen ddiwedd mis Awst.

Mae Cerys yn ymddiddori’n fawr mewn cynrychiolaeth gyfartal yn y celfyddydau, ac yn ddiweddar ysgrifennodd erthygl ar gyfer y cylchgrawn O’r Pedwar Gwynt, yn tynnu sylw at rai o broblemau’r sîn pop/roc yng Nghymru yn y cyswllt yma ac yn ystyried pam y mae lleisiau rhai bobl yn cael eu clywed yn fwy nag eraill.

Cerys oedd dewis unfrydol aelodau’r panel cyf-weld ar gyfer y wobr, ac unwaith eto roeddent wrth eu bodd efo safon arbennig yr ymgeiswyr. Dywedodd Dafydd Rhys, Cyfarwyddwr y Ganolfan:

“Roedd safon y ceisiadau ar gyfer Gwobr 2020 unwaith eto yn uchel iawn, ac roedd y bobl ifanc y buom yn cyfarfod â nhw mor frwdfrydig ac ysbrydoledig. Roedd Cerys yn sefyll allan gyda’i hymrwymiad i gerddoriaeth werin Gymreig, o’r gorffennol ac yn edrych i’r dyfodol, a’i diddordeb mewn gweithio ar draws genres cerddorol i ddatblygu ei steil unigryw ei hun. Edrychwn ymlaen at weld ei gwaith yn datblygu trwy ei hastudiaethau ac rydym yn siŵr fod ganddi dyfodol gwych o’i blaen.”

Mae Cerys yn dilyn cyd-enillwyr y llynedd: Owain Gruffydd, sydd ym Mhrifysgol Northampton yn astudio ar gyfer Gradd Anrhydedd BA mewn Actio, a Laura Baker, sy’n gweithio tuag at Radd Anrhydedd BA mewn Addysg Bale yn yr Academi Ddawns Frenhinol.

Pan ddaeth Syr Ian McKellen i berfformio yn y Ganolfan ym mis Chwefror 2019, rhoddwyd yr holl arian a godwyd trwy werthu tocynnau a chyfraniadau yn ystod ei ymweliad i un ochr, i’w ddefnyddio ar gyfer cefnogi gwaith pwysig y Ganolfan gyda phobl ifanc. Sefydlwyd Gwobr Ian McKellen Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, sy’n agored i bobl ifanc rhwng 16 a 25 oed ac sy’n bwriadu parhau â hyfforddiant galwedigaethol yn y celfyddydau creadigol, yn cynnwys – ond nid yn gyfyngedig i – theatr, dawns a’r celfyddydau gweledol. Mae’r swm o £500 ar gael bob blwyddyn i ymgeisydd sy’n medru dangos addewid artistig ac angerdd tuag at ei ffurf gelf ddewisedig, ac sydd wedi ennill lle i astudio yn ystod y flwyddyn academaidd ganlynol.