![](https://360.scdn8.secure.raxcdn.com/ased/sites/6/2020/03/Prifysgol-Aberystwyth-Campws-3-640x396.jpg?gc48)
Mae safle ar gampws Prifysgol Aberystwyth yn cael ei ddefnyddio fel canolfan brofi coronafeirws, ac eisoes wedi sgrinio dros 115 o weithwyr allweddol sy’n byw yng Ngheredigion, Powys a De Gwynedd.
Gan fod drysau’r Brifysgol ynghau i fyfyrwyr ar hyn o bryd, mae Prifysgol Aberystwyth wedi bod yn gwneud yn siŵr fod defnydd yn cael ei wneud o’i hadeiladau er mwyn helpu yn y frwydr yn erbyn y coronafeirws.
Mewn datganiad diweddar, cyhoeddodd y Brifysgol eu bod wedi cyfrannu adeilad fel canolfan sgrinio gweithwyr allweddol a gofod meddygol at ddefnydd meddygon teulu lleol.
Mae’r un adeilad hefyd wedi ei ddynodi fel ardal glinigol i’w defnyddio gan feddygon teulu, ac mae llety i staff y gwasanaeth iechyd a gweithwyr y gwasanaethau brys ar gael ym mhreswylfeydd y Brifysgol.
Yn ogystal, mae timau o fewn y Brifysgol wedi cyflenwi a chynhyrchu offer diogelwch personol ar gyfer gweithwyr iechyd rheng flaen a chartrefi gofal, ac yn galw ar bobol leol sydd ag argraffydd 3D i helpu i greu sgriniau wyneb i’r GIG.