£16 miliwn i roi ‘bywyd newydd’ i’r Hen Goleg

Adnewyddu’r Hen Goleg ac “adennill ei le yng nghalon Aberystwyth”

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360
Llun Cronfa Dreftadaeth

Argraff arlunydd o fynediad newydd yr Hen Goleg – Llun Cronfa Dreftadaeth

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi sicrhau £16 miliwn ar gyfer adnewyddu adeilad yr Hen Goleg –  £10 miliwn o arian Cronfa Dreftadaeth y Loteri, yn ogystal â £3 miliwn gan Lywodraeth Cymru a £3m o gronfa Ewropeaidd.

Wrth gynnal digwyddiad i ddathlu derbyn yr arian, fe ddywedodd y Brifysgol bydd yr adeilad sydd yn dyddio nôl i’r ddeunawfed ganrif ac yn adeilad rhestredig Gradd 1 yn cael “bywyd a phwrpas newydd”.

Y gobaith yw bydd y gwaith adeiladu wedi ei gwblhau erbyn 2022/23 pan fydd y Brifysgol yn dathlu ei phen-blwydd yn 150.

Yn ôl y Gronfa Dreftadaeth bydd tua 900 o bobl yn elwa o’r prosiect a fydd yn creu tua 50 o swyddi newydd a’r cyfle i 400 o bobol wirfoddoli.

Y cynllun

Fe fydd yr adeilad ar ei newydd wedd yn cynnwys:

  • Lle ar gyfer arddangosfeydd
  • Canolfan i entrepreneuriaid a busnesau newydd
  • Stiwdios artistiaid
  • Caffi
  • Ystafelloedd cymunedol
  • Cyfleusterau ar gyfer digwyddiadau a gwyliau mawr
  • Talwrn Trafod, gofod ar gyfer cyfarfodydd a chynadleddau – Y Cyntaf o’i fath yn y Deyrnas Unedig
  • Canolfan Ddarganfod
  • Gwesty Boutique

Medden nhw

“Bydd arian y Loteri Genedlaethol yn golygu y gall yr adeilad annwyl hwn adennill ei le yng nghalon Aberystwyth a’r gymuned leol, a thrawsnewid yr adeilad yn ganolfan groesawgar, bywiog a chreadigol – nid yn unig i Aberystwyth ond i Gymru gyfan,” meddai’r Brifysgol mewn datganiad.

 

“Mae’r adeilad yn eiconig, ac yn un o ryfeddodau pensaernïol Ceredigion” meddai’r Aelod Cynulliad lleol, Elin Jones. “Fe fydd yr hwb newydd yn galluogi defnydd newydd a chyffrous i’r adeilad, ac yn sicrhau dyfodol disglair i’r adeilad a chyfraniad pwysig i economi a diwylliant Ceredigion.”

 

 

“Wrth i’r Brifysgol agosáu at ei phen-blwydd yn 150 oed, gall yr Hen Goleg gynnig etifeddiaeth barhaol fydd yn hyrwyddo ei threftadaeth ac yn edrych i’r dyfodol yn hyderus.” – y Gweinidog Diwylliant, Dafydd Elis-Thomas.

 

Wrth galon y gymuned gyfan

Bydd y datblygiad “wrth galon y gymuned gyfan – gan greu swyddi, a chynnig lletygarwch, helpu rhoi hwb i’r economi, creu sgiliau a chyfleoedd i’r gymuned, a bydd yn agor ei ddrws i bob math o ddarganfyddiadau a dysgu.” – y Farwnes Kay Andrews, cadeirydd Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru.

 

Darllenwch y stori wreiddiol ar Golwg360 yma.