Mae Prifysgol Aberystwyth wedi sicrhau £16 miliwn ar gyfer adnewyddu adeilad yr Hen Goleg – £10 miliwn o arian Cronfa Dreftadaeth y Loteri, yn ogystal â £3 miliwn gan Lywodraeth Cymru a £3m o gronfa Ewropeaidd.
Wrth gynnal digwyddiad i ddathlu derbyn yr arian, fe ddywedodd y Brifysgol bydd yr adeilad sydd yn dyddio nôl i’r ddeunawfed ganrif ac yn adeilad rhestredig Gradd 1 yn cael “bywyd a phwrpas newydd”.
Y gobaith yw bydd y gwaith adeiladu wedi ei gwblhau erbyn 2022/23 pan fydd y Brifysgol yn dathlu ei phen-blwydd yn 150.
Yn ôl y Gronfa Dreftadaeth bydd tua 900 o bobl yn elwa o’r prosiect a fydd yn creu tua 50 o swyddi newydd a’r cyfle i 400 o bobol wirfoddoli.
Y cynllun
Fe fydd yr adeilad ar ei newydd wedd yn cynnwys:
- Lle ar gyfer arddangosfeydd
- Canolfan i entrepreneuriaid a busnesau newydd
- Stiwdios artistiaid
- Caffi
- Ystafelloedd cymunedol
- Cyfleusterau ar gyfer digwyddiadau a gwyliau mawr
- Talwrn Trafod, gofod ar gyfer cyfarfodydd a chynadleddau – Y Cyntaf o’i fath yn y Deyrnas Unedig
- Canolfan Ddarganfod
- Gwesty Boutique
Medden nhw
“Bydd arian y Loteri Genedlaethol yn golygu y gall yr adeilad annwyl hwn adennill ei le yng nghalon Aberystwyth a’r gymuned leol, a thrawsnewid yr adeilad yn ganolfan groesawgar, bywiog a chreadigol – nid yn unig i Aberystwyth ond i Gymru gyfan,” meddai’r Brifysgol mewn datganiad.
“Mae’r adeilad yn eiconig, ac yn un o ryfeddodau pensaernïol Ceredigion” meddai’r Aelod Cynulliad lleol, Elin Jones. “Fe fydd yr hwb newydd yn galluogi defnydd newydd a chyffrous i’r adeilad, ac yn sicrhau dyfodol disglair i’r adeilad a chyfraniad pwysig i economi a diwylliant Ceredigion.”
Cyhoeddiad nawr o £6m gan Dafydd Elis Thomas @LlywodraethCym i’r Hen Goleg.
A £6m contribution now announced by @WelshGovernment to this important project. pic.twitter.com/VegywNJoIk— Elin Jones (@ElinCeredigion) January 14, 2020
“Wrth i’r Brifysgol agosáu at ei phen-blwydd yn 150 oed, gall yr Hen Goleg gynnig etifeddiaeth barhaol fydd yn hyrwyddo ei threftadaeth ac yn edrych i’r dyfodol yn hyderus.” – y Gweinidog Diwylliant, Dafydd Elis-Thomas.
Wrth galon y gymuned gyfan
Bydd y datblygiad “wrth galon y gymuned gyfan – gan greu swyddi, a chynnig lletygarwch, helpu rhoi hwb i’r economi, creu sgiliau a chyfleoedd i’r gymuned, a bydd yn agor ei ddrws i bob math o ddarganfyddiadau a dysgu.” – y Farwnes Kay Andrews, cadeirydd Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru.