Bwyty Hwngaraidd newydd yn Aberystwyth

Am y tro cyntaf erioed, mae gan Aberystwyth gaffi Hwngaraidd, sydd a blas newydd gwahanol.

Mererid
gan Mererid

Nid pawb fyddai yn mentro agor busnes yng nghanol cyfnod coronafeirws a hynny mewn tref sydd erioed wedi cael caffi Hwngaraidd o’r blaen. Ym mis Mawrth, roedd lansiad mawr y caffi wedi ei gynllunio, ond gyda chyfyngiadau COVID-19, bu raid oedi cyn agor yn ffurfiol. Yn wreiddiol, bwyd stryd oedd Foodbox, yn gwerthu ar gampws y Brifysgol. Dechrau 2020, cawsant les uned wag ar Terrace Road, drws nesaf i Broc Môr, dros y ffordd i Lampeter House a KFC.

Mae ganddynt amrywiol fyrbrydau a phecyn arbennig am £9.50 sydd yn cynnwys cawl, prif gwrs, pwdin a lemonêd. Mae’r cawl yn anarferol iawn – cawl melys – bron fel pwdin. Mae’r bwyd yn amrywio bob dydd – felly syrpreis tra’n bod dal i arbrofi.

Mae hefyd hufen ia arbennig iawn, crepes a brechdannau wedi tostio blasur dros ben.

Beth am gefnogi busnes bach newydd yn Aberystwyth?

https://www.facebook.com/foodbox.aber/