Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn apelio am gefnogaeth y cyhoedd i leddfu’r pwysau ar ysbytai.
Er bod lefelau gweithgarwch yn uchel yn y gaeaf, mae eleni yn cynnwys heriau ychwanegol y sgil pandemig y coronaferiws, gan gynnwys prinder staff.
Daw hynny wedi cynnydd sylweddol yn nhrosglwyddiad y feirws yn y gymuned yn ar draws y tair sir.
Canllawiau’r Bwrdd Iechyd
Mae’r Bwrdd Iechyd wedi amlinellu canllawiau gall helpu leddfu’r pwysau ar ysbytai:
- I gael gofal brys ac mewn argyfwng yn unig, ffoniwch 999 – mae ysbytai yn parhau i weld cleifion sydd ag anghenion meddygol argyfyngol, yn ogystal â chleifion sydd ar lwybrau gofal canser y gofynnwyd iddynt fynychu.
- Os nad yw’n argyfwng, gallwch ffonio 111, ymweld â’ch fferyllfa leol neu ffonio eich meddygfa.
- Gall teuluoedd sydd â pherthnasau mewn ysbyty sydd wedi profi’n negyddol am Covid-19, ac sy’n feddygol addas i gael eu rhyddhau o ysbyty, chwarae rhan hanfodol yn ein helpu trwy gynorthwyo’r broses o ryddhau o ysbyty i’r cartref – ffoniwch Brif Nyrs y ward i drafod anghenion unigol.
- Diogelu’r Gwasanaeth Iechyd – a helpu i achub bywydau. Dilyn arweiniad y llywodraeth a Chadw Cymru yn Ddiogel trwy aros allan o gartrefi ein gilydd, ac eithrio mewn amgylchiadau cyfyngedig iawn; cyfyngu faint o bobl rydych chi’n cwrdd â nhw; cynnal pellter cymdeithasol; golchi’ch dwylo’n rheolaidd, a gweithio o gartref os gallwch chi. Hefyd, os oes gennych symptomau, arhoswch gartref, archebwch brawf a dim ond gadael gartref i gael eich prawf.
“Ar bwynt peryglus iawn”
Dywedodd Andrew Carruthers, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda:
“Mae nifer o frechlynnau’n cael eu datblygu ac mae’r newyddion am gymeradwyo un o’r rhain yn ddatblygiad cadarnhaol iawn. Ond, mae’n hanfodol i’r cyhoedd ddeall ein bod yn dal i fod ar bwynt peryglus iawn yng nghylch y pandemig ac mae cryn dipyn i’w wneud eto cyn y gallwn ddychwelyd i normalrwydd.
“Rydym yn delio â llawer mwy o achosion COVID-19 yn ein hysbytai nag yn y gwanwyn. Yn anffodus, mae hyn hefyd wedi effeithio ar ein gweithlu ac wedi effeithio’n ddifrifol ar ein capasiti a rhwystro ein cynlluniau uwchgyfeirio.
“Er ein bod yn hyderus bod nifer yr achosion datganedig mewn ysbytai bellach yn gostwng, a’n bod yn gallu glanhau wardiau yn ddwfn a’u hail -agor yn ddiogel, y broblem fwyaf sy’n ein hwynebu o hyd yw salwch staff.
“Rwyf am fod yn glir iawn y byddwn yn dod trwy hyn, ond mae angen help y cyhoedd arnom nawr i atal trosglwyddo’r feirws yn ein cymuned a rhoi cyfle i’n gweithlu wella, fel eu bod yn gallu darparu gofal diogel ac effeithiol i’n cleifion.”
Mae mwy o wybodaeth ynglŷn â chanllawiau Llywodraeth Cymru ar gael fan hyn.