Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn diolch am ‘ymdrechion rhyfeddol’ cymunedau lleol

Bydd Ysbyty Enfys Aberystwyth yn cael ei throsglwyddo i’r Bwrdd Iechyd erbyn dydd Llun nesaf.

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Llun gan Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi talu teyrnged i’r “ymdrechion rhyfeddol” gan bartneriaid, contractwyr, cymunedau lleol, staff a gwirfoddolwyr er mwyn creu ysbytai dros dro ledled ardal gwasanaeth Hywel Dda mewn llai na tair wythnos.

Mae’r safleoedd yng Ngheredigion wedi’u lleoli yng Nghanolfan Hamdden Plascrug ac Ysgol Uwchradd Penweddig, gan ddwyn yr enw Ysbyty Enfys Aberystwyth ac mae Canolfan Hamdden Aberteifi wedi ei throi yn Ysbyty Enfys Aberteifi.

Dywedodd Steve Moore, Prif Weithredwr Hywel Dda: “Fel bwrdd iechyd rydym yn barod am yr heriau sydd o’n blaenau ac rydym am i’n cymunedau fod yn sicr ein bod wedi gwneud popeth o fewn ein gallu i gyrraedd y pwynt hwn yn seiliedig ar ragdybiaethau cynllunio a modelu cenedlaethol.

“Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o’r prosiectau hyn – am eu hymdrech a’u hymrwymiad rhagorol.”

Cyngor Sir yn cefnogi’r Bwrdd Iechyd

Dywedodd Cyngor Sir Ceredigion ei bod nhw’n falch iawn o gefnogi Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i sefydlu dau ysbyty maes dros dro yn y sir mewn ymateb i argyfwng y coronafeirws.

Yn ôl Eifion Evans, Prif Weithredwr Cyngor Sir Ceredigion, “Mae medru trosglwyddo’r adeiladau cyn pen tair wythnos ers dechrau ar y gwaith yn dangos ymdrech aruthrol.

“Hoffwn ddiolch i bawb am eu gwaith caled yn troi dwy ganolfan hamdden ac un ysgol i fod yn gyfleusterau gwelyau ysbyty ychwanegol, a hynny mewn llai na thair wythnos.”

Mae cyfanswm o saith ysbyty dros dro wedi cael eu haddasu o ganolfannau a chyfleusterau hamdden a chwaraeon ledled Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro.

Bydd y safleoedd yn cael eu trosglwyddo i’r Bwrdd Iechyd erbyn dydd Llun 27 Ebrill 2020, ac yn cael eu defnyddio yn ôl yr angen.

 

Dyma restr lawn o’r ysbytai maes dros dro ledled ardal gwasanaeth Hywel Dda:
• Ysbyty Enfys Aberystwyth – Canolfan Hamdden Plascrug ac Ysgol Uwchradd Penweddig
• Ysbyty Enfys Aberteifi – Canolfan Hamdden Aberteifi
• Ysbyty Enfys Caerfyrddin – Canolfan Hamdden Caerfyrddin
• Ysbyty Enfys Llanelli – Canolfan Hamdden Llanelli
• Ysbyty Enfys Selwyn Samuel – Canolfan Selwyn Samuel, Llanelli
• Ysbyty Enfys Scarlets – Parc Y Scarlets, Llanelli
• Ysbyty Enfys Carreg Las – Bluestone, Sir Benfro